Dwi wedi bod yn ail-ddylunio’r wefan ‘ma yn gyflym p’nawma. Roeddw ni’n ei gweld hi’n hurt fod genna i rhysllwyd.com a blog.rhysllwyd.com ar wahan – roedd angen i mi ddod ar cyfan ynghyd ar un gwefan. Dwi wedi bod yn defnyddio thema default WordPress, sef kubrick, ers i mi ddechrau defnyddio WordPress a hynny oherwydd mod i’n hoffi’r layout glan. Anfantais kubrick oedd ei fod yn rhy basic i ddefnyddio i adeiladu gwefan oedd yn fwy na dim ond blog. Ond wele dyma fi wedi darganfod a dechrau defnyddio kubrick 2, neu jest K2 fel maen cael ei alw.

Dwi wedi cael gwared o lot o’r clutter oedd gyda fi lawr y sidebar hefyd ac yn lle hynny wedi cael pedwar ‘hub’ buttons. Un ar gyfer mynd at y dylunio, un at fy lluniau, un at fy Nhwitter ac un at fy ngherddoriaeth. Bosib wnâi ddatblygu mwy o bethau i lawr y sidebars rhyw dro ond am nawr rwy’n hoffi’r symlrwydd a’r taclusrwydd. Mae rhysllwyd.com dal yn mynd i’r hen wefan draw ar rhysllwyd.wordpress.com ar hyn o bryd ond dros y penwythnos bydda i’n ei ddargyfeirio i ddod yn syth fan yma.

Jest gobeithio na fydd unrhyw ddarpar gleientiaid dylunio yn cael eu troi i ffwrdd gan fy sylwadau beiddgar yn y cofnodion blog! Er, efallai byddai hynny yn fanteisiol am chwe mis nawr er mwyn i mi allu canolbwyntio ar sgwennu pennodau o’r thesis PhD.

Please follow and like us: