Fel ciw ddyluniwr graffeg a ffotograffydd dwi am roi gair sydyn am ddiwyg y wefan o safbwynt lluniau. Lluniau – mae’r cywasgu yn anghywir ac fe fedrai ddweud hyn oherwydd eu bod nhw wedi defnyddio un o fy lluniau i fan hyn. Fe gymerais i luniau i’r Cylchgrawn print o Gruff Eitha Tal ar gytundeb o £bla-di-bla y llun a ddefnyddiwyd, ond mae’r wefan wedi defnyddio llun gwahanol i’r un a ddefnyddiwyd mewn print felly oes hawl gyda mi godi ail anfoneb? Bydd rhaid i ffotograffwyr ail-edrych ar gytundebau fan hyn felly. Ond bid a fo am hynny, cyfleon newydd mae’r wefan yn ei greu i ffotograffwyr yn hytrach na rhwystr a gall hynny ond fod yn beth da.

Nol at y cywasgu. Dyma’r llun fel mae’n ymddangos ar Golwg360 (maint 32k):

gruff_golwg

A dyma fe wedi ei gywasgu’n iawn (maint 36k):

gruff1

Dyma fy ffefrynau i o’r shoot yn ddu a gwyn gyda llaw

Maen gwneud byd o wahaniaeth i olwg y wefan fel y gwelwch chi yn enwedig os bydd lot o luniau ar hyd lle a bydd gwelliannau bach fel ‘na yn mynd yn bell dwi’n meddwl a hynny heb godi unrhyw gostau ychwanegol.

Pob dymuniad i’r tîm heddiw – mi fydda i yn sicr yn gwneud fy siâr drwy anfon deunyddiau fideo, lluniau, storïau ayyb… y dof ar eu traws. Yr unig drueni yw fod y wefan ddim yn dod yn agos i gystadlu gyda gwefannau y Guardian, Times ac ati, ond mae tîm Golwg wedi gwneud yn dda ar gyllideb dyn. Bydd rhaid pwyso ar y Llywodraeth i gynyddu’r grant yn flynyddol nawr er mwyn darparu rhywbeth fydd gyfwerth o leiaf a’i haddewid gwreiddiol o bapur dyddiol Cymraeg.

Please follow and like us: