Ro’ ni’n croesawu’r adroddiad gan grŵp o Aelodau Seneddol heddiw fod angen cymryd rhai camau ymarferol i daclo epidemig goryfed Prydain, problem sy’n bodoli os nad ar ei waethaf yma yng Nghymru. Fel dwi wedi nodi droeon dwi ddim yn llwyrymwrthodwr ond mi ydw i’n meddwl fod goryfed, hynny yw meddwi a ‘binge drinking‘ yn broblem real i’n cymdeithas ni heddiw. A dwi’n credu a dweud hyn nid o safbwynt beirniadol a ffroenuchel ond yn hytrach yn ei ddweud allan o gonsyrn a chariad. Y prif argymhellion sydd wedi dod allan heddiw yw y dylid gwahardd hyrwyddiadau megis nosweithiau ‘parti punt’ a ‘buy two get three’; yn ogystal nodwyd y dylid gwahardd archfarchnadoedd rhag gwerthu Alcohol ar golled ac felly yn rhad tu hwnt i’r cwsmer.
Mae’r lobi a’r grwpiau pwyso pro-Yfed, sydd wrth gwrs yn cael eu hariannu’n sylweddol ac yn uniongyrchol gan y cwmnïau diodydd Alcoholig, wedi ymateb yn chwyrn i’r argymhellion gan nodi nad oes angen mesurau o’r fath ac fod cyfrifoldeb personol gan bawb i yfed yn gymedrol ac na ddylai’r llywodraeth ymyrryd ym mhenderfyniad personol unigolyn faint o ddiod y dymunai yfed mewn noson. Ond wrth gwrs, nid rhywbeth personol a phreifat yw hyn oherwydd mae’r diwylliant goryfed yn rhoi straen ofnadwy ar yr NHS ac maen rhaid i bob trethdalwr dalu am ofal i’r unigolion hynny sy’n gwneud y dewis “personol” i oryfed. Mewn gair felly, nid yw’n benderfyniad “personol” maen benderfyniad hunanol ac yn fwrn ar bawb. Os wyt ti wedi rhoi straen ar yr NHS, boed yn un apwyntiad doctor neu’n driniaeth hegar yn Casualty nos Sadwrn ar ôl bod yn goryfed rwyt ti wedi cyfrannu’n uniongyrchol i dynnu adnoddau ac arian oddi ar driniaethau mewn meysydd eraill fel cancr a gofal plant. Dyna yw’r realiti trist.

Hysbyseb: "Remember nights out for the right reason"
Ond dwi’n meddwl i mi glywed y geiriau doethaf heddiw o enau Wynford Ellis Owen, o’r hen Syr Wymff a Plwmsan (!), sydd bellach yn Brif Weithredwr y Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau. Esboniodd Wynford mae dim ond y cam cyntaf ydy atal goryfed ac mae’r ail-gam, y pwysicaf, ydy edrych pam fod pobl yn troi at ymgolli ynddyn nhw eu hunain mewn goryfed yn y lle cyntaf? Mae’r ateb, fel yr awgrymodd Wynford, yn un diwinyddol a dim ond yr Eglwysi wrth sôn am Grist o’r newydd fel gwaredwr mewn hanes all ddod a gwaredigaeth hir dymor i’n epidemig cymdeithasol ni yng Nghymru o oryfed.
MPs call for pub happy hours ban (BBC)
Un rheswm amlwg am or-yfed dyddiau ‘ma, sydd yn cael anwybyddu yn reit aml, ydi bod diodydd meddwol yn llawer blasusach erbyn hyn nag oedden nhw. Fyddai unrhyw un yn stryglo i feddwi ar gwrw sur ein cyndadau, ond mae hyd yn oed shots 40 percent proof yn blasu fel loshin plant erbyn hyn… mmm…
Yn darllen hwn wrth ymadael i fynychu ‘flat party’ llawn o fyfyrwyr Cymraeg!
Buodd Arfon Jones yn siarad gyda ni yn yr undeb Cristnogol heno, yn son am Iesu’r Rebel a sut ddylse’n ffydd ni fod yn radical (nid yn yr ystyr ffwntamentalaidd wrth gwrs!)
yn yr ystyr hynny na ddylse ni fel Cristnogion fod yn llwyrymorthodwyr? dyna’r eithaf arall i gor-yfed yn yfe?
Neu falle hyd yn oed y peth mwya eithafol galle ni neud yw yfed, a dangos nad oes rhaid meddwi wrth yfed.