Wedi gorffen yr arholiadau! Ddim wedi gwneud fawr ddim byd prynhawn yma heblaw am gadarnhau mae Steffan Cravos fydd prif artist gig NAWS mis Chwefror. Cyffrous iawn.

Heno rwy’n mynd i gyfarfod er mwyn cynllunio cynhadledd Cymdeithas yr Iaith ‘Bywyd ar ôl y bwrdd’. Mae’n gyfnod cyffrous yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd ar hyn o bryd gyda’r posibilrwydd o ddiddymu’r bwrdd yn realiti, felly bydd yn ddiddorol gweld sut aiff pethau heno yn y cyfarfod.

Please follow and like us: