Mae fy nghath i wedi newid ei sbotiau heddiw, fe drodd y Teigr yn Leopard. I chi sy’n parhau am ryw reswm i ddefnyddio Windows XP neu Vista gwell fydda i mi esbonio. Mathau gwahanol o gathod y mae Apple yn galw eu sustemau gweithredu, Puma (10.1), Jaguar (10.2), Panther (10.3), Tiger (10.4) a’r diweddaraf Leopard (10.5). I ddefnyddwyr Windows mae system weithredu newydd yn ddigwyddiad an-aml iawn, llynedd rhyddhawyd Windows Vista ond cyn hynny roedd defnyddwyr Windows wedi bod yn styc gyda XP ers 2001. Tra bod defnyddwyr Apple wedi mwynhau anwesu’r holl gathod roedd defnwyddwyr PC’s yn sownd yn syllu allan o’r un hen ffenestr ddiflas.

Mae’r cysyniad o osod sustem weithredu newydd ar gyfrifiadur yn gysyniad hollol estron i ddefnyddwyr PC oherwydd ni fydd bywyd oes unrhyw PC yn medru goroesi hyd y Windows nesa – ar y llaw arall mae fy Afal i yn ddwy a hanner oed bellach ac maen llythrennol fel newydd ohyd – yn gyflym – yn ddibenadwy ac bellach a sustem weithredu newydd wedi ei osod a phob peth yn gweithio o fewn dwy awr o lwytho. Dim angen poeni am lwytho drivers di-ben draw i sawl trydedd parti fel ag sydd yn rhaid i ddefnyddwyr Windows boeni amdano.

Mae’r fideo yma yn dweud y cyfan:

[Oce, oce, efallai nad oedd hi mor hawdd a hynny i uwchraddio i Leopard. I ddechrau roedd rhaid i fi uwchraddio fy becynau meddalwedd Adobe o 7.0 i fyny i CS2, roedd angen i mi wneud hynny beth bynnag. Ac wedi uwchraddio i Leopard nid oedd NeoOffice 1.4 yn gweithio felly roedd rhaid uwchraddio i 2.2, ond unwaith yn rhagor roedd angen gwneud hynna ta beth.]

Please follow and like us: