Wythnos yma fe wylies y ffilm Gran Torino (2008) gan Clint Eastwood; fe oedd y cyfarwyddwr ac fe hefyd oedd yn actio’r prif gymeriad sef Walt Kowalski cyn-filwr fuodd yn ymladd yn Rhyfel Korea. Drwy’r rhan fwyaf o’r ffilm dawn amlwg fod Walt yn ddyn sy’n llawn rhagfarnau hiliol ac roedd gas ganddo feddwl fod teulu o dras Hmong yn byw drws nesaf iddo fe. Yn raddol daeth i adnabod y teulu, yn arbennig y plant Thao a Sue. Daeth i ddeall fod un o’r gangiau Hmong yn ceisio tynnu Thao i mewn i’w cylch ac oherwydd amharodrwydd Thao i ymuno a’r gang fe ddechreuodd y gang erlid y teulu. Daeth pen llanw i bethau wrth i’r gang wneud “drive by shooting” ar y tŷ ynghyd a herwgipio Sue a’i threisio hi. Addawodd Walt y byddai’n helpu ei gymdogion i ddelio gyda’r gang unwaith ac am byth.

gran-torino-movie

Cyn parhau gyda’r stori maen rhaid sôn am is-blot y ffilm a ddaethai yn y diwedd yn ganolog i ddiwedd y prif blot sef pererindod ysbrydol Walt. Dechreua’r ffilm gyda angladd gwraig Walt oedd yn Gristion – ar ôl yr angladd dywedodd yr Offeiriad wrth Walt mae dymuniad olaf ei wraig fyddai i Walt ddod i gyffesu: ymatebodd Walt yn chwyrn a dweud: “I don’t think so! I belive your a’n over-educated 27 year old virgin who likes to hold hands with superstitious old ladies and tell them that they’re going to heaven!” Daw’n amlwg yn y diwedd mae’r hyn sydd tu ôl i galedwch ysbrydol Walt yw ei brofiadau yn Korea lle bu iddo ladd tua pedair ar ddeg o bobl gan gynnwys bachgen ifanc gyda rhaw. Fe welodd y fath ddifrod y gwnaeth ei ddwylo gwaedlyd ef i’w gyflwr ysbrydol a’i fyd-olwg yn gyffredinol nes ei fod yn benderfynol na fyddai Thao a Sue yn gorfod byw eu bywydau’n sur fel fu’n rhaid iddo ef.

Roedd Thao am waed y gang wedi iddyn nhw ymosod ar dŷ ei deulu a threisio Sue. Trefnodd Walt noson arbennig gyda Thao lle bydden nhw yn mynd draw i dŷ y gang ac yn delio gyda nhw. Roedd dial yng ngwaed Thao. Ar y noson dan sylw fe glôdd Walt Thao yn ei lawr isaf a dweud ei fod yn mynd draw i ddelio gyda nhw ar ben ei hun – roedd gwaed ar ei ddwylo ef yn barod ac nid oedd am i Thao orfod byw gweddill ei fywyd a gwaed ar ei ddwylo yntau hefyd.

large_grantorinojpg

Aeth Walt i gyfarfod y gang, daethant allan i’w gyfarfod pob un ohonynt a dryll. Estynnodd Walt i mewn i’w siaced ac yna fe’i llenwyd a bwledi ac fe fu farw yn y fan ar lle. Cyrhaeddodd yr Heddlu yn fuan wedyn a chanfod nad oedd gan Walt ddryll o gwbl ac oherwydd hynny roedd modd arestio ac anfon holl aelodau’r gang i’r carchar am flynyddoedd maith am ladd Walt mewn gwaed oer. Mewn gair, fe ddangosodd Walt amgenach ffordd na dial – fe aberthodd ef ei hun dros ei gyfeillion ac i ddelio gyda’r drygioni.

Wrth gwrs roedd yr holl stori yn gysgod o efengyl Iesu Grist: ‘Diarfogodd y tywysogaethau a’r awdurdodau, a’u gwneud yn sioe gerbron y byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth arnynt ar y groes’ (Colosiaid 2:15). Daeth Duw ar ffurf dyn yn Iesu Grist i mewn i’r byd i ddelio gyda’n camwri unwaith ac am byth a hynny nid drwy ddial yn ein herbyn fel yr oeddem ni mewn gwirionedd yn ei haeddu am ein holl wrthryfel yn erbyn y Creawdwr; ond yn hytrach fe ddeliodd a phroblem dyn a’r byd drwy ei aberthu Ef ei hun drosom ar y groes.

Gwyliwch y ffilm da chi – mae hi ar gael i’w phrynu a’i rhentu fel DVD.

Please follow and like us: