Mae Guto Dafydd ar ei flog prysur wedi bod yn beirniadu Wynfford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ac Alun Lenny, Swyddog Cyfathrebu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Yr hŷn sydd wedi tynnu sylw Guto yw ymgyrch ddi-flino’r ddau ŵr yn erbyn penderfyniad yr Urdd i werthu Alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd 2010. Ymlwybrwch draw i’w flog i weld beth sydd ganddo i ddweud, ond dyma rai o fy meddyliau i am y pwnc.

O gael y dewis dwi ddim yn meddwl fod angen alcohol yn ‘steddfod yr Urdd. Fodd bynnag dwi’n cytuno gyda llawer o’r hyn y mae Guto yn ei ddweud am grwsâd yr Annibynwyr. O safbwynt tystiolaeth Gristnogol, ac fel Bugail/Pregethwr fy hun, gallaf i dystio fod y niwed mae’r Annibynwyr yn gwneud i’r dystiolaeth Gristnogol bob tro mae’r helynt ar y radio yn dra anffodus bellach. It’s bad press, chwedl y Sais. Pan fydda i’n clywed y dadleuon yn cael eu rhoi gerbron glywa i ddim byd ond cyfiawnhad trwy weithredoedd, yr hŷn a glywir yw’r ddeddf yn y bôn. A does dim rhaid i chi fod yn Gristion o berswâd arbennig fel fi i ddeall fod Iesu wedi dod i’n gwared ni o’r ddeddf ac mae ffydd syml yn unig sydd raid bellach. Maen bur debyg mae nid dyma yw bwriad Alun ac eraill ac rwy’n argyhoeddedig fod eu hamcanion yn ddigon iach a phur. Fodd bynnag dyma sy’n dod drosodd ar yr awyr, mae ymateb anffyddwyr hunan-gyfaddefol fel Guto Dafydd yn brawf o hyn.

Dwi’n meddwl fod rôl gan Gristnogion i ofalu am les ac iechyd ein pobl felly i ryw raddau mae lle gan Gristnogion annog cymedroldeb boed hynny o junk food, alcohol neu beth bynnag arall all arwain i fod yn niweidiol. Ond maen rhaid i’r alwad am gymedroldeb ddod allan o gariad ac nid deddfoldeb. Maen debyg mae allan o gariad mae cri Alun ac eraill yn dod, ond yn anffodus nid felly y mae’r ddadl yn dod drosodd ar y radio mwyach. Amwn i fod Radio Cymru’n euog, yn ôl yr arfer, o begynnu dadleuon yn fwriadol ac fod Alun ac eraill wedi eu dal yn y cyfan.

Os bydd pobl yn dod i ddilyn Iesu mi fydda nhw’n naturiol yn yfed yn fwy cymedrol. Felly oni ddylai’r Annibynwyr ganolbwyntio mwy ar gael mwy o bobl i ddilyn Iesu? Y broblem yw fod eu diwinyddiaeth am alcohol yn enghraifft o roi’r gert o flaen y ceffyl. Teimlaf weithiau fod yr enwadau Cymraeg wedi colli dimensiwn ysbrydol eu ymwneud gwleidyddol a chymdeithasol. Y mae dadl hiwmanistaidd gryf a chlodwiw i’w wneud dros yr holl achosion y bydd yr Annibynwyr yn codi llais amdanynt ond wrth gwrs fel Cristnogion mae ein dadleuon ni, gobeithio, yn mynd yn sylweddol ddyfnach a hynny oherwydd bod ein safbwyntiau a’n gweithgaredd gwleidyddol ni yn cael eu gwneud yng ngolau cysgod y Groes, yr hyn a wnaeth adferiad yn bosib. Pam na fyddai’r Annibynwyr yn sôn mwy am hyn?

Y maen rhaid i weithgaredd gwleidyddol eglwysi ddod law yn llaw gyda chenhadaeth ysbrydol – i weld bywydau ac eneidiau yn troi at Grist – dydw i ddim yn dweud o’r rheidrwydd fod un yn bwysicach na’r llall, jest dweud yn syml fod y ddau yn gorfod dod law yn llaw. Cymerwch er enghraifft y cynnig pwysig a roed gerbron Undeb yr Annibynwyr yn yr haf ynglŷn a gor-yfed. Pan ddechreuodd Wynford Ellis Owen ei swydd fel Prif Weithredwr y Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau dywedodd mae dim ond y cam cyntaf ydy atal gor-yfed ac mae’r ail-gam, y pwysicaf, ydy edrych pam fod pobl yn troi at ymgolli ynddyn nhw eu hunain mewn gor-yfed yn y lle cyntaf? Awgrymodd Wynford fod yr ateb yn un diwinyddol/athronyddol a dim ond yr Eglwysi wrth sôn am Grist o’r newydd fel gwaredwr mewn hanes all ddod a gwaredigaeth hir dymor i’n epidemig cymdeithasol ni yng Nghymru o or-yfed. Oni ddylai’r Annibynwyr fod yn mynd ar ôl hyn fwy ar Taro’r Post?

Fe fuesi’n fyfyriwr ym Mantycelyn am dair mlynedd ac wedi hynny yn Warden yn John Morris Jones am ddwy felly dwi’n hen law ar ddeall y pethau yma. Dwi wedi gweld y niwed y mae gor-yfed yn ei wneud i bobl a’i niwed y mae’n cael ar ein cenedl. Rwyf wedi gweld digon hefyd i sylwi mai nid argyfwng gor-yfed alcohol yw’r broblem waelodol – argyfwng ysbrydol ydyw! Fe osododd Wynford her i ni fel Eglwysi gyflwyno ateb dyfnach nag unrhyw atebion y gall asiantaethau hiwmanistaidd seciwlar roi. Dyna yw’r her dwi’n meddwl.

DIWEDDARIAD: Y mae Dyfwed Wyn Roberts wedi ymuno a’r drafodaeth bellach draw ar ei flog ef.

Please follow and like us: