Nos Sul, ar Sianel 62 darlledwyd cyfweliad cwbwl wefreiddiol gyda Guto Prys ap Gwynfor. Mewn cyfweliad cymharol fyr a hynny ar y wê byddai disgwyl i’r cynnwys fod yn gymharol arwynebol ac, efallai, ail-adrodd llawer o ystrydebau am y mudiad heddwch a heddychiaeth. Ond beth a gafwyd oedd esboniad cwbwl wefreiddiol o seiliau Cristnogol heddychiaeth ac yn y broses rhannodd Guto rhywfaint o’i dystiolaeth ef ei hun ynglŷn a dod yn Gristion, troi cefn ar genedlaetholdeb treisgar a chofleidio cenedlaetholdeb heddychlon.
Mae’r cyfweliad yma yn haeddu gwrandawiad a dadansoddiad manwl gan bawb gan fod Guto yn un o’r bobl prin yna heddiw sy’n agor y drws i ni i athrylith llawer o genedlaetholdeb Cymreig. Ac mae’r dyfnder yn syniadaeth Guto sydd a’i seiliau yn ei ffydd Gristnogol yn dangos i ni, yn y bon, beth yw diffyg presennol y mudiad cenedlaethol sef ei bod yn ddibris o sylfaen heddychiaeth a chenedlaetholdeb dyrchafol sef Iesu ei hun.
Er i fi fwynhau stori Guto, mae arnai ofn bod rhaid i mi aghytuno’n llwyr bod cristnogaeth i fod i roi rhyw ddyfnder ychwanegol i genedlaetholdeb. Ti’n arbenigwr ar hanes y cyswllt hwnnw, ac efallai ei rôl yn natblygiad Plaid Cymru, ond mae dy ddadansoddiad yn disytyru y pwynt sylfaenol: er mwyn i genedlaetholdeb lwyddo, rhaid iddo fod yn gynhwysol o bob math o genedlaetholdebau gan gynnwys rhai anffyddiol, rhai sy’n seiliedig ar syniadau economaidd yn unig er enghraifft.
Problem cenedlaetholdeb yw nid bod rhaid ei ferwi nôl lawr i rhyw essence gwreiddol, ond bod rhaid ei agor fyny a thynnu mwy i mewn.
Dwi’n deall dy ddadl Rhodri, ac yn bersonnol dwi’n gallu cydweld a chydweithio’n rhwydd gyda chenedlaetholwyr secwlar. Wedi dweud hynny mae rhaid wrth rai ffiniau, i’r Cristion o genedlaetholwr dydy’r prosiect cenedlaethol ddim i gael ei agor allan i’r pwynt o obeithio am ei lwyddiant ar unrhyw gost. Er enghriafft, fel Cristion a heddychwr byddwn i ddim yn cydweithio a chenedlaetholwyr sy’n arddel trais, nac ychwaith syniadau am genedlaetholdeb yn ôl gwaed, fod yna “hil” Gymreig o ran gwaed ayyb… I’r Cristion o genedlaetholwr nid y genedl yw’r ffocws na’r gwrthrych ond yn hytrach Crist, daw ei syniadaeth am y genedl, diwylliant a chenedlaetholdeb o’i ffydd yng Nghrist. I genedlaetholwyr secwlar y perygl yw i’r genedl ei hun fod yn wrthrych canolbwynt eu syniadaeth ac felly, yn ddiarwybod, yn dduw (duw “d” fach yllu). Mae’n gwestiwn cymhleth, ar ôl sgwennu 80,000 o eiriau ar y pwnc mae gen i gwestiynnau o hyd!