Fuesi’n ffodus o ddenu contract jest cyn y dolig gan DMC Promotions i ddylunio logo, poster, flyers a matiau cwrw i hyrwyddo CeltFest ’09. Amwni mae dyma’r jobyn mwyaf dwi wedi cael hyd yma ac yn sicr yr un sy’n talu orau! Yr hyn berodd i mi ennill y contract dwi’n meddwl oedd mod i’n hysbysebu mod i’n arbennigo mewn dylunio a chysodi pethau’n ddwyieithog. Roedd y trefnwyr yn eiddgar i gael y deunydd marchnata i gyd yn ddwyieithog er mwyn cyfleu naws Geltaidd y digwyddiad.

Dyma’r Poster:

A dyma’r Flyers:

 

Dolen: Dylunio Rhys Llwyd

Please follow and like us: