Yn anffodus mae’r gyfres ar Hanes Cristnogaeth yng Nghymru wedi colli stem yn barod a hynny ond ar ol un postiad. Gobeithio fedrai atgyfodi hi rywbryd.
Yn y cyfamser dwi wedi bod yn astudio gwariant y pleidiau Gwleidyddol yng Nghymru yn ystod Etholiad Cyffredinol 2005. Dwi wedi cael y data oddi ar wefan yr Electoral Commision. Mae’r data yn ddiddorol.
Dwi wedi menbynnu y data i edrych sut gwnaeth y pleidiau wario eu harian yn wahanol i’w gilydd. Ceir dadansoddiad pitw dan y graffiau. Dyma’r graffiau:
Fe welir yn y graffiau fod gwarian Llafur fel pe bae yn fwy cyson ym mhob maes na rhai gweddill y pleidiau sy’n amlwg wedi rhoi eu holl wyau mewn un basged.
Plaid Cymru yn ddiddorol, wedi gwario llawer mwy ar gyfartaledd na gweddill y pleidiau ar Ymchwil a Canfasio.
Lib Dems yn ddiddorol wedi gwario mwy ar gyfartaledd ar drafnidiaeth. Tybed pam? Efallai oherwydd nad oedd eu ymgeiswyr yn byw yn yr etholaethau. e.e. roedd rhaid iddyn nhw roi pres petrol i Mark Williams ddod lan a lawr o Aberhonddu i Aberystwyth bob dydd am fis!!!
Ceidwadwyr – sylwed eu bod nhw heb wario dim byd ar ganfasio i bob pwrpas. Ateb posib – diffyg aelodau llawr gwlad i wneud y gwaith canfasio mae’n siwr.
Diddorol, a diolch am y siartiau – dwi’n licio siartiau!
Eiliaf. Siartiau diddorol iawn.
Helo Rhys! Yn ogystal a phatrwm y gwario on i’n meddwl fod maint y rhifau ar hyd echel y siartiau’n ddiddorol: mae’r rhif mwya ar un y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur (£300 000 a 400 000) dros 25 a 18 o weithiau’n fwy nac un Plaid Cymru (£16 000).
Fe nes i ychydig o dwrio ar wefan y Comisiwn Etholiadol fy hunan, a dyma wariant y bedair plaid yng Nghymru yn ystod yr Etholiad Cyffredinol, gyda eu siar o’r bleidlais:
Llafur: £1,075,470.00 (48.6%)
Ceidwadwyr: £845,015.71 (21.0%)
Dem Rhydd: £258,115.00 (13.8%)
Plaid Cymru: £38,879.00 (14.3%)
Ar un wedd mae hyn yn newyddion da i Blaid Cymru: mae’r nifer o bleidleisiau a gawsant am bob punt a wariwyd ar yr etholiad yn llawer uwch nag unrhyw blaid arall: bron saith gwaith yn uwch na’r Democratiaid Rhyddfrydol, yr agosaf ar y mesur yma.
Ar y llaw arall, mae’n awgrymu fod cyllid Plaid Cymru yn cymharu’n wael iawn â rhai’r pleidiau eraill o ran maint eu cyllid etholiadol: mae gwariant y blaid Lafur 25 gwaith yn fwy na gwariant Plaid Cymru! Pam fod hyn tybed? Ai diffyg rhoddwyr mawr sy’n gallu cyfrannu cannoedd o filoedd, neu ddiffyg parodrwydd/gallu/ymwybyddiaeth aelodau cyffredin y blaid pan y daw at faterion ariannol?
Rwy’n hollol anghyfarwydd â beth sy’n digwydd o fewn i Blaid Cymru, felly rwy’n gofyn mewn anwybodaeth llwyr. Ond fe fyddai’n ddiddorol gwybod yr ateb…