Teimladau cymysg oedd gennyf wrth glywed am brotest yr Annibynwyr ar y newyddion wythnos yma ynglŷn a rhoi dewis i ddisgyblion Chweched Dosbarth pinau i fynd i’r Gwasanaeth yn yr Ysgol neu beidio. Dyma rannu rhai o fy meddyliau.

Er bod angen amddiffyn a gwerthfawrogi ein traddodiad Cristnogol, rhaid cyfaddef bod rhyw elfen o’r brotest wythnos yma yn dod o’n dyhead naturiol i gadw pethau fel maen nhw wastad wedi bod. Mae pawb eisiau teimlo’n gysurus a chadw at y status quo. Rwy’n sicr o’r farn mai’r ffordd orau i’r eglwys ddelio gyda her seciwlariaeth yng Nghymru heddiw yw ei gydnabod a’i daclo rhag blaen. Rhaid ei wynebu head on, ys dywed y Sais, yn hytrach na cheisio ei wadu a’i anwybyddu a cheisio dal gafael ar y Gymru a fu. Rhaid peidio edrych nôl yn rhamantus at y gorffennol ond yn hytrach breuddwydio am y Gymru Fydd a Christ yn cael ei ddyrchafu eto gennym ni’r Cymry. Rhaid i Gristnogion beidio hawlio rhyw oruchafiaeth sefydledig dros gymunedau ffydd eraill, nac ychwaith dros y seciwlarwyr. Rhaid i ni gyflwyno Crist fel y Gwaredwr a garwn yn hytrach na’i wthio ar bobl ar lefel sefydledig, boed hynny trwy gyfrwng gwasanaethau yn yr Ysgolion neu fel arall. Yn ei hanfod, mae’r ffydd Gristnogol yn syml ac yn atyniadol ond mae ein sefydliadau cenedlaethol, yn grefyddol ac yn seciwlar, wedi gwneud cam â’r ffydd Gristnogol oherwydd hen draddodiadau sych a diffrwyth. Maen rhaid i ni fel Eglwysi addasu i’r oes ôl-Christendomaidd yn hytrach na chodi stŵr a mynna dal yn yr hyn sydd ar ôl. Fel Annibynwyr fe fyddwch yn ymwybodol fod eich traddodiad, ar y cyfan, yn gweld Christendom fel rhywbeth negyddol ac fod angen cadw Eglwys a Gwladwriaeth ar wahân ac fe olyga hynny ryddid crefyddol (i secwlarwyr yn ogystal) mewn ysgolion cyhoeddus.

Fel sefydliadau cenedlaethol, ni ddylai ysgolion arddel unrhyw ffurf ar grefydd. Credaf fod egwyddor go bwysig i’n bywyd fel cenedl yn y fantol pan fo ysgolion yn cymryd arnynt eu hunain i drefnu gwasanaeth crefyddol. Mae’r Ysgolion at wasanaeth pawb pa un bynnag a ydynt yn Gristnogion ai peidio. Peidiwch a cham-ddeall chwaith, syniad hapus ddigon yw i’r Eglwysi drefnu mynd i fewn i’r Ysgolion i gynnal gwersi trafod neu wersi Addysg Grefyddol, i ddweud y gwir rwy’n adnabod sawl un sydd yn ymwneud a’r gwaith yma. Ond peth pur wahanol yw i beirianwaith yr Ysgolion gael ei ddefnyddio i drefnu oedfaon Cristnogol; ac a dweud y gwir prin maen siŵr yw’r Cristnogion bellach sydd ar staff Ysgolion i arwain y gwasanaethau yma yn yr ysbryd cywir beth bynnag. Ni bu gennym grefydd sefydledig yng Nghymru ers bron i ganrif a buom fel ymneilltuwyr yn galw am y datgysylltiad am ganrifoedd cyn hynny. Rhyfedd felly oedd clywed llinell yr Annibynwyr ar y newyddion heddiw.

Mae angen i ni droi yn ôl at lyfr yr Actau ac yno fe welwn mae nid Cristnogaeth oedd y grefydd sefydledig o bell ffordd; roedd natur y Gristnogaeth a’r genhadaeth o ganlyniad yn dra gwahanol i’n Cristnogaeth sefydledig ni. Rydw i, wrth gwrs, am weld Cymru yn dyrchafu enw’r Iesu unwaith eto ond rhaid ennill calonnau i Grist. Dyna yw problem y traddodiad o fewn Cristnogaeth sy’n mynnu y dylai Cristnogaeth gael blaenoriaeth a safle aruchel mewn cymdeithas – ofer yw fod y ffydd Cristnogol a phroffil gyhoeddus os ydy calonnau ar goll. Rhaid dechrau eto a mynd yn ôl at lyfr yr Actau i weld sut beth oedd yr Eglwys cyn Cystennin, dyna ydy gwir Gynulleidfaoliaeth ac Annibyniaeth.

This post in English | Y postiad hwn yn Saesneg

Please follow and like us: