prayMi fydd yr haneswyr ymysg darllenwyr y blog yn gwybod mae un o nodweddion diwygiadau ac unrhyw ddiwygio o fewn yr eglwys ydy eglwys weddigar. Law yn llaw a darllen y Beibl gweddi yw un o ddisgyblaethau ysbrydol mwyaf sylfaenol y ffydd Gristnogol ac felly dylai fod yn un o weithgareddau mwyaf canolog ein eglwysi. Gweddi yw’r ffordd symlaf y gallwn siarad â Duw, arweinydd a gobaith ein eglwysi. Mae gweddi’n fodd o agor eich calon a rhannu eich meddyliau, eich emosiynau, eich deisyfiadau, eich anghenion, eich gofidiau, eich pryderon ac hefyd eich canmoliaeth, eich diolchgarwch a’ch gobeithion gyda’ch Tad nefol. Gallai’r rhestr fynd ymlaen am byth, does yna ddim byd na allwch chi drafod gyda’ch Tad nefol; y maen gwybod eisoes beth sydd ar eich calon.

Ond yn ein byd prysur swnllyd ni tybed a ydym ni’n methu a threulio digon o amser mewn tawelwch yn siarad a Duw? Yn 1 Brenhinoedd 19:11-13 fe glywn i lle y cyfarfu Elias a Duw:

Bu gwynt cryf nerthol, yn rhwygo mynyddoedd a dryllio creigiau, o flaen yr Arglwydd; nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt. Ar ôl y gwynt bu daeargryn; nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn. Ar ôl y ddaeargryn bu tân; nid oedd yr Arglwydd yn y tân. Ar ôl y tân, distawrwydd llethol. Pan glywodd Elias, lapiodd ei wyneb yn ei fantell a mynd i sefyll yng ngenau’r ogof; a daeth llais yn gofyn iddo, “Beth a wnei di yma, Elias?”

Roedd Duw yn y tawelwch, tybed a’i un o’r rhesymau y bod llai o bobl yn cael profiadau dwys o bresenoldeb Duw yng Nghymru heddiw yw oherwydd ein bod ni wedi anghofio pwysigrwydd tawelwch? Wedi’r cyfan, onid ydy ein isymwybod yn gwybod yn iawn mae yn y tawelwch y mae Duw i’w weld a’i brofi fwyaf? Onid dyna ydy sail yr ymadrodd “awkward silence”? Mae pobl yn ofn tawelwch oherwydd eu bod nhw’n ofn dod wyneb yn wyneb a’u Creawdwr.

Ond nid problem gyda chymdeithas gyfoes yn unig yw hyn, rydym ni yn yr eglwysi wedi mynd i anghofio pwysigrwydd cyfnodau o weddi. Er fod y Beibl drwyddo yn ein hatgoffa o bwysigrwydd canolog gweddi ac fod hanes yn dangos fod cyfnodau o fendith wedi dilyn cyfnodau o weddi dwys yn yr eglwys y mae gweddïo wedi mynd yn rhywbeth gynyddol anweledig. Y mae’r rhan fwyaf o eglwysi Cymraeg wedi rhoi’r gorau i gynnal cyfarfod gweddi a dim ond llond dwrn o ffyddloniaid sy’n mynychu’r cyfarfodydd gweddi yn yr eglwysi cryfaf yn y trefi. Yn yr Eglwys Efengylaidd lle ces fy magu gwelwyd yr arfer o ddarllen gweddïau fel rhywbeth tra an-ysbrydol ac felly ers i mi addoli a gweithio mewn eglwysi mwy traddodiadol fe’i gwelais hi’n dipyn o sioc gweld pobl yn sôn am ‘baratoi gweddi ar gyfer y cyfarfod gweddi’ ac ati. Bellach rwy’n gweld fod lle i ddefnyddio rhai gweddïau wedi eu paratoi mewn rhai sefyllfaoedd ond eto teimlaf fod yr arfer o weddïo o’r frest yn cael ei esgeuluso. Pan fydda i’n ffonio fy nhad i gael sgwrs am rywbeth fydda i ddim wedi paratoi sgript o flaen llaw nac ychwaith yn rhoi rhyw lais gwahanol ymlaen a siarad mewn Cymraeg canol. Credaf fod angen i ni yn yr eglwysi Cymraeg ail afael yn y cyfarfodydd gweddi a magu arfer o’r newydd o weddïo o’r frest.

Ond rydym ni i gyd yn gwybod fod gweddïo yn gallu bod yn straen ar adegau ac oherwydd hynny mi fyddwn ni efallai yn troi at weddi fel last resort yn hytrach na’i gymathu i mewn i’n bywyd bob dydd. Yn y cofnod nesaf felly bydda i’n rhannu rhai awgrymiadau syml ar gyfer meithrin bywyd mwy gweddigar.

Mae’r ffilm yma yn crynoi’n reit dda yr hyn roeddw ni’n dweud am beidio rhoi tawelwch i ni siarad a Duw ac iddo ef siarad a ni:


(i ddeall neges y ffilm mae’n rhaid i chi allu darllen y testun, felly bosib fydd o rhy fach ar YouTube felly chwyddwch o i ‘full screen’)

Please follow and like us: