Dyma’r ail gofnod am weddi, mae’r rhan gyntaf yma.

Rydym ni i gyd yn gwybod fod gweddïo yn gallu bod yn straen ar adegau ac oherwydd hynny mi fyddwn ni efallai yn troi at weddi fel last resort yn hytrach na’i gymathu i mewn i’n bywyd bob dydd. Dyma rai awgrymiadau syml ar gyfer meithrin bywyd mwy gweddigar.

Adnabod pethau fydd yn eich symbylu

Cymerwch bethau rydych chi’n ei wneud bob dydd ac yna eu defnyddio i’ch symbylu i weddïo. Dyma rai syniad i’ch helpu i ddechrau meddwl: cymryd cawod, mynd i’r tŷ bach, teithio yn y car, wrth ddisgwyl i’r tegell ferwi, yr eiliadau yna wrth i chi droi y golau i ffwrdd gyda’r hwyr. Rydych chi’n gweld beth rwy’n ceisio ei wneud. Cymryd pethau rydych chi’n ei wneud bob dydd ac eu defnyddio i’ch sbarduno i weddïo. Troi gweddi’n rhywbeth naturiol dydd i ddydd yn hytrach na defod yn yr eglwys unwaith yr wythnos.

Sefydlu patrwm ac arferion da

Os na fydd gennych gynllun, bydd hi’n hawdd mynd i’r arfer o weddïo ar hap. Fyddwch chi wastad yn gweddïo am yr hyn sydd ar eich meddwl ac o ganlyniad yn gweddïo ar gyfer yr un pethau drosodd a throsodd. Nid yw hyn o reidrwydd yn ddrwg o beth, ond maen siŵr fod yna lawer o bethau â phobl eraill yn eich bywyd y dylech fod yn gweddïo amdanynt hefyd. Ni fyddai hi’n arfer drwg i gadw cofnod mewn llyfr o’r pethau, sefyllfaoedd a phobol y dylech weddïo amdanynt, ac yna troi at y llyfr yma unwaith bob diwrnod i’ch cynorthwyo i roi cyfeiriad i’ch gweddïau. Gallwch droi yn ôl at y llyfr hefyd i weld ym mha ffordd mae Duw wedi bod yn ateb eich gweddïau gan gofio y gall ateb mewn tri ffordd: “Ie”, ond hefyd “Na” a “Ddim ar hyn o bryd”. Os na fyddwn ni’n hapus gyda’r ateb rhaid bod yn agored mae dyna ateb Duw i’n gweddi ac y mae e’n gwybod yn anhraethol well na ni beth sydd ddaionus ar ein cyfer. Maen arfer da hefyd i gofio mae nid rhestr siopa fo’n gweddïau i fod. Er fod ein Tad nefol eisiau i ni gyflwyno ein gofidiau a’n deisyfiadau iddo rhad cofio fod gweddi hefyd yn gyfle i ddiolch am y bendithion rydym eisoes wedi eu derbyn.

Ei gadw’n syml

Yng nghyfnod Iesu ar y ddaear byddai gan yr Iddewon weddïau parod ar gyfer bron a bod pob achlysur. Mi fyddai yna weddi ar gyfer aredig y tir, wrth fwyta pryd, wrth yfed gwin, a hyd yn oed wrth fynd i’r ystafell ymolchi. Ond yr hyn sy’n bwysig i nodi oedd bod y rhan fwyaf o’r gweddïau hyn yn rai byr, brawddeg o hyd. Hynny yw, does dim rhaid i’n gweddïau ni fod yn rai hir a chymhleth i Dduw ddeall. Weithiau, y gweddïau symlaf bydd y rhai gorau. Os gallwch chi ond feddwl am ychydig o bethau’n unig i ddweud wrth Dduw, yna ewch amdani. Dydy Duw ddim yn dal ei fys ar y stopwatch wrth i chi weddïo. Mae e’n awyddus i glywed gennych pa bynnag ffordd ddaw’r weddi allan ohonoch. Mae Duw yn caniatáu cam treiglo hyd yn oed!

Ei gadw’n deimladol

Atgoffwch chi eich hunain gyda phwy yr ydych yn siarad. Er bod Duw yn y Frenin y bydysawd, ef hefyd yw gwrthrych cariad eich enaid. Yn y Salmau rydym ni’n gweld Dafydd yn agor ei galon led y pen i’w Dduw, y mae yna emosiwn, cariad a gonestrwydd dwfn yna. Roedd yn agored ac yr un mor onest ag y byddai rhywun gyda’i ffrind agosaf. Felly mewn gwirionedd nid gweddïau hir wyntog neu weddïau mewn Cymraeg canol ydy’r gwaethaf ond yn hytrach rhai heb galon. Os nad ydych yn gweddïo allan o gariad at Dduw, yna ydych chi’n gweddïo o gwbl? Gweddïo ydy un o’r pethau dyfnaf ac agosaf fyddwn ni’n gwneud gyda’n Duw felly dylid ei drin felly.

Gobeithio fod yr ychydig sylwadau yma o gymorth ac y byddant yn ein cynorthwyo ni i gyd ar lefel bersonol ac gyda’n gilydd yn yr eglwysi i ail-ddarganfod grym gweddi. Oblegid y mae’r Ysgrythurau yn dangos y bod Duw yn bendithio ei bobl pan foent yn unedig mewn gweddi ger ei fron.

Please follow and like us: