banner2b

Ddoe yn dilyn ffrwgwd rhwng Amazon a chyhoeddwr llyfrau fe fu’n rhaid i Amazon ddileu llyfrau dros eu rhwydwaith whispersync oddi ar declynnau Kindle defnyddwyr ac ad-dalu cost y llyfrau i’r defnyddiwr. Fe benderfynodd y cyhoeddwr nad oedden nhw am werthu’r llyfrau ar ffurf eInk bellach ac fe berswadiodd y cyhoeddwr Amazon i fynd un cam ymhellach a dileu’r llyfrau oddi ar declynnau pobl oedd eisoes wedi eu prynu heb yn wybod i’r defnyddiwr. Mae hyn wrth gwrs yn codi cwestiynau ynglŷn a phreifatrwydd a hawliau’r defnyddwyr – os gall Amazon dapio i fewn i declynnau pobl dros y rhwydwaith a dileu a gosod ffeiliau fel y myn heb ganiatâd y defnyddiwr unigol mae yna gynsail a model peryglus yma.

Ond dyma sy’n gwneud y stori yn fwyaf difyr. Beth oedd y llyfrau a ddileodd Amazon? Wel dim byd llai nag Animal Farm a Nineteen Eighty-Four gan George Orwell! Eironig iawn…

Please follow and like us: