Llongyfarchiadau i Gwenno Teifi am dreulio ei hail gyfnod yn y carchar drosom ni wythnos yma. Mae ei charchariad yn arbennig o bwysig i mi yn bersonnol oherwydd fod Gwenno yn Gristion o argyhoeddiad a da yw gweld Cristnogion ar flaen y gad ym mrwydrau cymdeithasol yr oes yn ogystal a’r brwydrau ysbrydol. Mae Cristnogion o argyhoeddiad (meiddia i ddweud efengylaidd) môr llwath eu hagwedd tuag at faterion cymdeithasol a gwleidyddol ond diolch i Dduw bod yn grop ohonom gyda Gwenno yr enghraifft orau o bosib sy’n dewis peidio cyfyngu ein ffydd i’r Capel yn unig.

Dwi ddim wedi dod ar draws yr hanesyn isod yn y rhithfro eto felly dyma hi. Yng ngeiriau Ffred, tâd Gwenno:

Merch yn dod i mewn i gell Gwenno, eistelawr a chau’rdrws

Merch – What are you in for ?
Gwes – Non-payment of fines. What are you in for ?
Merch – Murder !

Please follow and like us: