Dwi’n tynnu lluniau ers rhai blynyddoedd bellach ac er mod i’n gymharol fodlon gyda fy nhirluniau a fy lluniau newyddiadurol roedd yna un maes na fentrais iddi eto … tan ddoe. Y maes hwnnw oedd lluniau priodasol. Roeddwn i’n nerfus tu hwnt, ond esboniais i fy nghyfeillion oedd yn priodi nad oeddwn wedi gwneud o’r blaen ac iddyn nhw dderbyn y byddai’r cyfan yn dipyn o trial & error. Ond roeddwn i’n falch am y cyfle er mwyn gweld a oedd yn fath o ffotograffiaeth y gallwn ddatblygu mwy ohono yn y dyfodol. Dwi’n meddwl bod y lluniau yn argoeli’n weddol ar gyfer y dyfodol ond dwi hefyd wedi gweld lle mae angen i mi wella. Dyma rannu rhywfaint felly am sut es i ati.
Roedd gen i ddau gamera, Canon 7D (prif gamera) a’r 40D (wrth gefn). Newydd brynu’r 40D ail-law ydw i, roedd yn rhad iawn ond roedd angen camera wrth gefn arna i. Er ei fod yn rhad roeddwn i wedi disgwyl gwell. Mae wir-yr yn gamera wrth gefn a dim mwy, roedd y gwahaniaeth rhyngddo a’r 7D mewn golau isel yn drawiadol ac felly prin i unrhyw luniau o’r 40D gyrraedd y casgliad terfynol. Yn yr hir dymor bydd angen ail gamera gwell arna i.
O ran lensys roedd gen i’r 17-40mm f/4, 40mm f/2.8, 50mm f/1.4, 70-200mm f/4. Roedd y mwyafrif helaeth o’r lluniau wedi eu tynnu ar y 40mm, mae’n debyg mae’r 50mm byddwn i wedi defnyddio ond dydy’r AF ddim yn gweithio ar hwnnw felly mae’n anodd ei ddefnyddio mewn sefyllfa lle mae pethau’n newid yn sydyn. Oherwydd roedd modd i mi fod yn gymharol agos i’r cyffro yn y capel ac yn y derbyniad doedd dim angen i mi ddefnyddio llawer o’r 70-200mm ac mae hynny’n ffodus mewn gwirionedd oherwydd roedd yr f/4’s yn stryglo braidd gyda golau isel y capel. Yn yr hir dymor bydd angen uwchraddio’r 70-200mm o f/4 i f/2.8. Ond dydy hynny ddim mynd i ddigwydd yn y dyfodol agos yn anffodus, mae nhw’n costio gymaint a câr! Defnyddiais i’r 17-40mm ar gyfer y lluniau grŵp. Mae’n rhyfedd iawn mae’r lens wnes i’r defnydd mwyaf ohoni oedd y 40mm sef fy lens rhataf, prawf fod dim angen yr offer drud bob tro.
Y flash oedd gen i oedd y Speedlite 580. Dwi wedi bod yn burydd ers blynyddoedd yn gwrthod defnyddio flash ond roeddwn i’n gwybod y byddai angen un arna i ar gyfer y briodas felly dwi dim ond wedi cael flash ers ychydig wythnosau. Wrth edrych nôl roedd angen i mi ymarfer dipyn mwy gyda’r flash na’r hyn wnes i, ac roedd y defuser rhad oedd gen i yn dda i ddim mewn gwirionedd felly bydd angen i mi fuddsoddi mewn mathau gwahanol o defusers. Y brif broblem gyda’r flash oedd bod y to yn y capel mor uchel â’r waliau mor bell o wrthych y lluniau nes bod bownsio’r flash ddim yn gweithio mewn gwirionedd.
Ar y cyfan roeddwn i’n bles iawn gyda’r lluniau grŵp tu allan a’r lluniau “artistig” yn y capel, roedd y lluniau yn y derbyniad yn ddigon derbyniol ond roeddwn i ychydig yn siomedig gyda fi fy hun gyda’r lluniau wnes i gymryd yn ystod y gwasanaeth. Ond dyna ni, trial & error. Dwi’n gobeithio fydd y teuluoedd yn hapus gyda’r lluniau, mae hynny’n bwysicach na be dwi’n feddwl fy hun amdanyn nhw!
Dwi’n tynnu lluniau mewn priodas dau ffrind arall dros y misoedd nesaf, wedi hynny dwi’n gobeithio bydda i wedi magu digon o hyder a phrofiad ac yn agored wedyn os oes galw ac amser i wneud gwaith am dâl. Dwi wedi cofrestru lluniaupriodas.com yn barod rhag ofn!
Dyma oedd fy hoff luniau i o’r diwrnod. Plîs gadewch sylwadau, boed yn bositif neu’n rhoi beirniadaeth adeiladol:
Mwy o luniau ar Flickr:
Priodas Andras a Heledd, a set on Flickr.
Gwaith cartref yn allweddol. Mynd ar recce i’r capel gwesty etc a saethu dummy shots. Ma angen cynorthwydd arnat ti yn fwy na dim byd arall i drefnu pobl lleoliadau ag ati yn enwedig os wyt ti’n saethu stwff ffurfiol. Ma cefndir glan yn allweddol…. dryse di cau etc Rwy’n osgoi pethe ffurfiol ond ma pethe yn gallu newid ar y dydd. Bydda’n barod i chwysu!!!!
Pryna reflector gweddol fowr fe alli di fownsio’r flash a defnyddio reflector fel fill trwy adlewyrch gole mae e’n effeithiol iawn ond ma angen ail bar o ddwylo. ee gallu di saethu tuag at yr haul i greu backlight ac yna defnyddio reflector i oleuo gwyneb. Cheesy ond effeithiol.
Saetha popeth sy’n symyd. saetha het anti Doris nodiade areithie close ups blode sgidie brethyn y chefs sy’n paratoi bwyd etc etc. Ma step ladder bach yn help i greu ongle gwahanol. ac yn ola am y tro ma angen lens 16-35 arnat ti!!!!