Dros y Nadolig darllenais lyfr gan un o’r arweinwyr eglwysig mwyaf dylanwadol yn yr UDA heddiw, sef Pastor Mark Driscoll. Teitl y llyfr yw Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church (Zondervan, £9.99) Dyma rannu gyda darllenwyr ‘Cristion’ rai o syniadau Driscoll a cheisio eu cymhwyso i’r eglwysi yng Nghymru. Yn y llyfr hynod yma mae Driscoll yn gwneud sylwadau am gyflwr yr eglwys heddiw, sut mae sefydlu eglwysi a sut mae eu rhedeg a hynny wedi ei blethu gyda naratif am hanes ei eglwys ef, Mars Hill yn Seattle, dros y deng mlynedd diwethaf. Teimlodd Driscoll alwad i sefydlu eglwys newydd yn ninas Seattle, y ddinas yn ystadegol oedd â’r nifer lleiaf o bobl yn mynychu eglwys yn yr UDA. Ei fyrdwn o’r dechrau oedd cychwyn eglwys a fyddai’n estyn allan i’r genhedlaeth ôl-fodernaidd, eglwys wedi ei dargedu yn benodol at bobl oedd yn troi o gwmpas is-ddiwylliant poblogaidd y ddinas. Mewn gair, nid capelwyr traddodiadol oedd y rhain. Mewn ychydig dros ddeng mlynedd mae’r eglwys wedi tyfu i fod dros 6,000 (!) o aelodau yn cyfarfod ar bedwar campws gwahanol mewn unarddeg cyfarfod gwahanol ar y Sul a channoedd o gyfarfodydd llai yn ystod yr wythnos. Mae sylwadau Driscoll felly i’w hystyried yn fanwl.

Cyflwyna Driscoll bedwar math gwahanol o Gristnogaeth sydd oll wedi eu hadeiladu o dri chynhwysyn gwahanol. Y tri chynhwysyn yw’r (i.) Efengyl, (ii.) Yr Eglwys a (iii.) Diwylliant, a dyma sut mae’n esbonio adeiladwaith y pedwar math gwahanol o Gristnogaeth:

1.Efengyl + Diwylliant – Eglwys = Parachurch
Pobl sy’n teimlo’n rhwystredig wrth weithio o fewn yr Eglwys ac yn sefydlu mudiadau efengylu annibynnol rhyng-eglwysig.

2.Diwylliant + Eglwys – Efengyl = Rhyddfrydol
Eglwysi sy’n troi cefn ar wirioneddau canolog yr Efengyl (ee cyfiawnhad trwy ffydd, Iawn Crist trosom ayyb.) felly’n cael eu gadael heb neges i’w chyhoeddi.

3.Eglwys + Efengyl – Diwylliant = Ffwndamentalaidd
Eglwysi sy’n credu’r Efengyl ac yn astudio’r Beibl ond yn gaeth i draddodiadau ac felly’n cael anhawster rhannu eu ffydd yn y gymdeithas gyfoes.

4.Efengyl + Diwylliant + Eglwys = Diwygiadol (Reformission)
Eglwysi nad sy’n cyfaddawdu gyda neges yr Efengyl ond sydd hefyd yn ymwneud â’r gymdeithas o’u cwmpas mewn ffordd gyfoes.

Noda bod cryfderau a gwendidau o fewn y tri thraddodiad cyntaf ond dim ond y pedwerydd math, yn nhyb Driscoll, sy’n ffyddlon i ddysgeidiaeth radical y Beibl, gan fod y lleill yn cyfaddawdu ar o leiaf un cynhwysyn. Megathema’r llyfr yw fod yr eglwys i fodoli fel cenhadaeth i’r oes a’r diwylliant ac nid fel clwb i’r cadwedig rai yn unig. Felly wrth benderfynu sut y dylid cynnal gwasanaethau ac ati yn yr eglwys cred Driscoll y dylid rhoi’r ystyriaeth gyntaf i’r rhai di-gred a fydd yn troi mewn ac nid i’r teulu Cristnogol bach cyfforddus sy’n aelodau ers blynyddoedd. Mae hon yn wers galed sydd yn rhaid i eglwysi Cymru ei dysgu os am weld twf yng ngwaith Duw unwaith eto. Fel enghraifft o’r egwyddor hon ar waith mae Driscoll yn adrodd hanes teulu o Frodyr tra cheidwadol a ddechreuodd fynychu’r eglwys ac a ddywedodd y buasent yn dod yn aelodau ar yr amod y byddai eu plant yn cael canu handbells fel rhan o’r gwasanaeth. Byddai hyn, a dweud y lleiaf, yn ymddangos yn od i’r punks a’r indies di-gred a fyddai hefyd yn mynychu’r gwasanaethau. Dyma oedd ymateb Driscoll i’r teulu yma:

It was at that time that I realized our church would never have a sign out front that said “Everyone welcome,” becauseIi did not want everyone. Instead, I wanted people who would reach out to the lost young people in our area. So the Brethren folks and their handbells left our church.

Ar un olwg mae agwedd Driscoll yn dra an-raslon tuag at y teulu o dan sylw ac o fewn y sîn Gristnogol Gymraeg does dim digon ohonom ar gael i ni allu fforddio taflu pobl sy’n wahanol allan o’n heglwysi. Os taflwn bawb gwahanol allan, bach iawn fyddai ar ôl gyda ni! Fodd bynnag credaf fod sentiment Driscoll yn yr achos yma yn iach, sef rhoi prif ystyriaeth i anghenion y di-gred ac nid i ofynion personol pobl a theuluoedd sydd eisoes wedi eu hachub.

Agwedd ddifrifol o’r llyfr yw’r sylw mae Driscoll yn ei roi i waith y diafol. Mewn sawl man yn y llyfr mae’n adrodd sut y bu Satan yn ceisio rhwystro gwaith Duw, gan arwain yr eglwys a’i harweinwyr ar gyfeiliorn. Mae hyn yn rhywbeth sy’n weddol estron i ni yng Nghymru, efallai oherwydd mai yn ystod cyfnod o fendith neu adfywiad y bydd Satan prysuraf yn ceisio llesteirio gwaith Duw. Dyfynnaf ychydig frawddegau am un o hanesion sobreiddiol Driscoll:

A few weeks before we launched our little church plant in the fall of 1996, I was perplexed by an older man who had become something of a mentor to me. He was pushing some theological ideas that I did not agree with… I was conflicted. On one hand, I really liked the idea of having a seasoned older pastor in the church… on the other hand, my very discerning wife had the same Ghost check in her gut as I did… [a] a clue came in the form of a prophetic dream… while I was sleeping one night the Holy Spirit gave me a dream in which I was standing in the foyer of our rented church on the opening night of our church plant… the older man walked in.. he informed me that he wanted to pastor the church and that I should step aside and let him. God then spoke Acts 20:28-31 saying:

“Keep watch over yourselves and all the flock of which the Holy Spirit has made you overseers. Be shepherds of the church of God, which he bought with his own blood. I know that after I leave, savage wolves will come in among you and will not spare the flock. Even from your own number men will arise and distort the truth in order to draw away disciples after them. So be on your guard!”

…On the opening night of our church plant in October of 1996, the service was getting started when my wife realized that she had forgotten her Bible in the foyer. I jumped up to get it, and as I turned around, I found myself standing alone in the foyer, just as I had been in my dream. The older man then walked in the door… and came toward me speaking every word he had in my dream. I was so stunned that I was momentarily speechless… I told him to leave our church and never come back.

A few months later, another older pastor contacted me and said that the man God warned me of had been kicked out of his denomination on suspicion of undermining young pastors and taking money from young churches.

Mae’r hanesyn yna yn ein brawychu ond mae hefyd yn ein hatgoffa o’r newydd fod pob Cristion a phob eglwys yn rhan o frwydr gosmig ysbrydol. O ran profiad personol, dim ond dau enghraifft amlwg y gwn i amdanynt o ymosodiadau ar waith y deyrnas gan Satan, a’r ddau yn ymosodiadau ar ffrindiau i mi tra oedden nhw yng nghanol cenhadaeth gyffrous a ffrwythlon. Os fydd Duw yn bendithio’r eglwys yng Nghymru eto bydd angen i ni fod yn barod am ymosodiadau gan Satan a’i angylion syrthiedig a fydd yn ceisio tanseilio unrhyw adferiad.

Darllenwch y llyfr drosoch chi eich hun, mae’n afaelgar ac yn gyffrous. Dydw i ddim yn meddwl y bydd unrhyw un yn cytuno gyda Driscoll cant y cant am bopeth ac rydw i’n anghytuno gyda fe ar sawl pwynt, ond ar y cyfan ni ellid ond edmygu dyn sydd wedi gwasanaethu ei Arglwydd ac arwain miloedd i berthynas â Iesu Grist. Perygl llawer i eglwys fawr yw tyfu’n fewnblyg a hunanfoddhaus ond rhaid nodi nad yw’r eglwys hon wedi gwneud hynny. Er ei bod hi’n glamp o eglwys anferth, mae’n rhoi llawer o sylw i godi a datblygu eglwysi newydd o fewn Seattle, dros yr UDA a thros y byd i gyd – nid yw hi wedi mynd yn rhy gyfforddus ei byd.

Y wers fwyaf a ddysgais o’r llyfr yw pwysigrwydd cofio mai cenhadaeth fawr ehangu teyrnas Duw ac er gogoniant i Dduw yw diben yr eglwys ac nid clwb caeëdig i’r cadwedig rai. Rhaid i ni edrych ar Gymru’r unfed ganrif ar hugain fel ein maes cenhadol ni a gofyn sut mae modd i ni wneud ein heglwysi’n llefydd croesawgar lle bydd y mwyafrif di-gred, anghrefyddol yn teimlo’n ddigon cyfforddus i eistedd gyda meddwl agored i glywed gair Duw – y gair sydd â’r nerth i drawsnewid eu bywydau. Gwaith Duw yw achub eneidiau ond ni ddylai ein heglwysi fod yn rhwystr i bobl droi mewn i glywed yr Efengyl.

Please follow and like us: