Dwi di tynnu nyth cacwn i fy mhen dros nos gyda fy sylwadau am Golwg yn rhoi colofn i flogiwr Saesneg. Gwerth fyddai i mi grynhoi fy marn am y pwnc drwy ddefnyddio’r alagori yma:

I fi roedd hyn fel gweld y Poppies yn neud gigs Saesneg trwy’r flwyddyn wedyn yn cael un gig mawr Cymraeg bob ‘steddfod. Oce grêt bod nhw actually yn neud gig Cymraeg ond ychydig o dywod yn wyneb y rhai sydd wedi bod yn gigio’n Gymraeg trwy’r flwyddyn.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno gobeithio eich bod chi o leiaf yn deall fy safbwynt ar y mater. Ymhellach, mae sawl person wedi nod fod hi ddim yn bwysig ym mha iaith ydych chi’n trafod gwleidyddiaeth ac mai’r trafod ei hun sy’n bwysig. “Dim ots os ydy o’n Saesneg neu Cymraeg neu fflipin Swahili.” Mae’r sylw yma yn ddifrîol i werth iaith, mae’n trin iaith fel petasai’n gyfrwng yn unig heb fod iddo werth annibynnol o’r rheidrwydd iddo ef ei hun.

Mae Bethan Jenkins AC wedi ymateb wrth ddweud:

“Mae gan ef a phawb arall rhwydd hynt i ddewis pa iaith i flogio ynddo. Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, mae blog yn adlewyrchiad o feddyliai person, ac ni ddylir person cael ei feirniadu am ddewis blogio yn saesneg( na finne chwaith am hynny!)”

Rwy’n deall pwynt Bethan ond unwaith yn rhagor mae’r iaith yn cael ei drafod fel comodity fedrw chi benderfynu tynnu oddi ar y silff neu beidio – ac os ydy cynifer o bobl yn dewis ei adael ar y silff yna iaith eilradd bydd y Cymraeg yng Nghymru am amser eto.

Allw ni ddim gadael tynged y Gymraeg i lazzies fair oherwydd dim ond y lleiafrif bach iawn bydd yn fodlon sefyll yn erbyn y llif. Nid cyfrwng i’w ddewis neu beidio i gario dadl neu gario trafodaeth ydy’r Gymraeg ond mae’n endyd sydd a gwerth iddo yn ei hun. Ydy mae’r ddadl yn bwysig, ydy mae’r drafodaeth yn bwysig ond mae’r iaith mae hyn oll yn digwydd ynddo yn bwysig hefyd nid cyfrwng yn unig ydyw mae yn endyd gwleidyddol yn ei hun. Felly mae ots os ydy o’n Saesneg, Cymraeg neu fflipin Swahili.

Yn olaf, ydw i’n meddwl dylai Aelodau Cynulliad flogio’n Gymraeg? Ydw wrth reswm, yn enwedig felly eu bod nhw’n aelodau etholedig sydd, unwaith eto, fod i arwain y ffordd. Gyda Ciaran, er y buaswn ni wrth fy modd yn ei weld yn blogio’n Gymraeg does dim rheidrwydd arno fel aelod etholedig na dim byd felly i wneud – ond am aelodau etholedig – wrth gwrs bod dyletswydd. I Aelod Cynulliad gadw blog uniaith Saesneg mae e fel Aelod Cynulliad yn anfon gohebiaeth/flyers uniaith Saesneg allan i’w etholwyr. Trist.

Please follow and like us: