Â
Roedd araith Sarah Palin heddiw yn syfrdanol oherwydd roedd yn eithafol o adain dde ac yn sylfaenol yn sefyll yn erbyn dysgeidiaeth Iesu Grist. Roedd dau agwedd yn arbennig yn sefyll allan i mi fel un sylfaenol ang-nghristnogol.
Â
1. Difrïo yr angen i ofalu ar ôl yr amgylchedd
Â
Yn ei haraith heddiw fe ymosododd hi ar Barak Obama oherwydd fod Obama yn erbyn datblygu mwy o bwerdai trydan ac yn dadlau mae’r hyn oedd angen i’r UDA wneud oedd torri yn ôl ar yr egni oedd hi’n defnyddio. Dadl syml a symplistig Palin oedd fod Obama yn “anghywir” oherwydd fod yr UDA “angen” mwy o bŵer ac felly drwy wadu hawl pobl yr UDA i godi mwy o bwerdai y bod Obama yn sicr o adael pobl UDA i lawr.
Â
Mae yna ddau wirionedd Cristnogol fan yma mae Palin yn ei anwybyddu a’i wadu. Mae cyfrifoldeb gan y Cristion i ofalu ar ôl creadigaeth Duw. Yr hyn sy’n drawiadol am efengyliaeth adain dde ydy’r ffaith eu bod nhw yn cymryd y Beibl yn llythrennol ar un llaw ond ar y naill eu bod nhw yn anwybyddu adnodau “anghyfleus” hefyd. Er enghraifft, cymerwch Genesis 1 a hanes y creu, mae efengylwyr adain dde, ar y cyfan, yn cymryd Genesis 1 yn llythrennol ac mae Sarah Palin wedi dweud eisoes ei bod hi o blaid dysgu “Creadigaeth” yn yr ysgolion. Fodd bynnag, o wrando ar ei haraith hi heddiw lle mae hi’n beirniadu Obama am gael dyhead i warchod yr amgylchedd maen amlwg fod Sarah Palin yn dewis anwybyddu Genesis 1:26-28 sy’n dweud:
Â
Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy’n ymlusgo ar y ddaear.” Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy. Bendithiodd Duw hwy a dweud. “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n ymlusgo ar y ddaear.
Â
Nid yw Sarah Palin yn saff i ddal swydd mor bwerus a hyn os yw ei syniad hi o lywodraethu môr gul. Maen amlwg mae bas iawn iawn yw ei chrebwyll gwleidyddol hi heb sôn am ei chrebwyll Cristnogol hi os ydyw hi’n gallu difrïo ymdrechion Obama i ofalu ar ôl creadigaeth ein Arglwydd yn y fath ffordd.
Â
2. Difrïo y syniad o wario arian cyhoeddus ar gyfiawnder cymdeithasol
Â
Yr ail wedd o araith Sarah Palin heddiw oedd yn sylfaenol anghristnogol oedd difrïo ymgais Obama i wasgaru cyfoeth yn decach o fewn yr UDA. Mae gorchymyn pendant yn y Beibl i ofalu ar ôl ein cymydog ac mewn gwlad ddemocrataidd y ffordd o wneud hynny ydy codi trethi er mwyn i’r llywodraeth dalu am gynhaliaeth cymdeithasol, gwasanaethau iechyd ac addysg i’r tlotach yn ein cymdeithas. Nawr nid syniad ‘adain chwith’ ydy’r syniad yma o wasgaru cyfoeth, i’r Cristion syniad ‘Cristnogol’ ydy cyfiawnder cymdeithasol. Ond er bod Sarah Palin a’r Gweriniaethwyr yn hawlio’r label efengylaidd-Cristnogol mae nhw’n methu yn llwyr a llunio polisi Cristnogol wrth edrych ar drethiant a chyfiawnder cymdeithasol.
Â
Unwaith yn rhagor heddiw mae Sarah Palin wedi dangos pa mor bell o ddysgeidiaeth Iesu Grist y mae gwleidyddiaeth y dde-efengylaidd yn yr UDA wedi symud.
Digon teg, Rhys, ond beth am gydymdeimlad Palin a’i gwr yn y 90au a Mudiad Ymreolaeth Alaska? A beth am ei hagweddau at Frodorion America. e.e : http://reznetnews.org/article/sarah-palin/whats-palins-record-native-issues
Hoffwn wybod mwy am y ddynes ddiddorol hon cyn ei chondemnio. Nid yw bod yn adain dde ynddi’i hun yn arwydd o ddrygioni.
Fel pob sect Cristnogol, mae hyn lawr i’r dehongliad o be mae’r beibl yn ddeud.
Ti’n gweld Genesis 1:26-28 i ddweud dylai dyn warchod y ddaear, mae’r right-wing-christian-nut-jobs yn darllen o i ddeud ‘Cym be tisho o’r ddaear, mae o i gyd i chdi i reibio fel ti’n licio’.
Mae hyn ym un o’r (nifer) rhesymau pam dwi’n anghytuno efo crefydd.
I don\’t normally leave comments, but your post really got me thinking! Thanks for this!