Rhai meddyliau mewn ymateb i gyfrol arbennig…
Priodas Gatholig cwbl breifat heb yr un aelod o’u teuluoedd yno y cafodd Saunders Lewis a’i wraig Margaret Gilcriest ac nid oedd achlysur priodas Catherine a J.E. Daniel yn achlysur hapus yn ôl y sôn. Cynhaliwyd y briodas honno yn gynnar ar fore Mawrth heb fod yr eglwys wedi ei addurno o gwbl ac ‘roedd mamau’r pâr priodasol mewn dagrau yn ceisio cysuro’i gilydd, y naill am fod ei merch wedi ymuno â’r Eglwys Gatholig a’r llall am fod ei mab wedi priodi Pabyddes.’
Gwrth Gatholigiaeth
Mae’r hanesion rhyfeddol yna yn dyst pa mor wrth-Gatholig, ar y cyfan, mae’r traddodiad Cristnogol Cymraeg wedi bod ac o ganlyniad cyn lleied y gwyddom amdani. Cymaint yw goruchafiaeth Protestaniaeth yng Nghymru nes bod y ffydd Gatholig bron yn cael ei weld fel crefydd hollol wahanol. Pleser o’r mwyaf felly oedd canfod cyfrol y diweddar Ioan Roberts ‘Gwinllan a Roddwyd: Hanes y Cylch Catholig’ yn yr eisteddfod eleni. Cyhoeddwyd y gyfrol llynedd ond am ryw reswm dim ond eleni y daeth hi i fy sylw i. Mae’n gyfrol boblogaidd a darllenadwy am ran fechan, ond pwysig, o hanes diweddar y ffydd Gristnogol yng Nghymru. Ond mae hefyd yn rhan bwysig o hanes cenedlaetholdeb gan fod stori llawer o’r prif gymeriadau, fel Saunders Lewis a Catherine a J.E. Daniel, yn bobl sydd a’u ffydd a’u cenedlaetholdeb wedi asio mewn ffordd na ellir eu gwahanu.
Nid Catholic ydw i, ond Protestant o’r iawn ryw, un o blant y traddodiad Efengylaidd – un a fagwyd ym mhethau’r Mudiad Efengylaidd a’m codi mewn Eglwys Efengylaidd cyn i mi wedyn dderbyn galwad at y Bedyddwyr. Nid annheg fyddai dweud fod yna bolemig gwrth-Gatholig wedi fy amgylchynu yn tyfu fyny yn y Mudiad Efengylaidd oherwydd mae’n ffaith hanesyddol fod polemig gwrth-Gatholig wedi nodweddu bron yr oll o’r traddodiad Protestannaidd Cymreig. Ond wrth ddarllen y llyfr yma fe wnes i gael fy atgoffa fod yna dipyn o dir cyffredin rhwng ein brodyr a’n chwiorydd Catholig, er bod yna wahaniaethau mawr a sylfaenol hefyd. Mewn gwirionedd mae yna lawer mwy o dir cyffredin nag y mae rhywun yn sylweddoli … neu o leiaf eisiau ei gydnabod!
Adwaith i Ryddfrydiaeth Ddiwinyddol
Os dechreuwn gyda’r rhesymau a berodd i rai o aelodau cynharaf y Cylch Catholig droi o ffydd Brotestannaidd at Gatholigiaeth. Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod eu rhesymau yn rhyfeddol o debyg i’r symbyliad, maes o law, i efengylwyr droi eu hymdrechion at waith y Mudiad Efengylaidd ar ôl eu dadrithio gyda bywyd yr enwadau anghydffurfiol. Y ddau brif reswm oedd rhemp rhyddfrydiaeth ddiwinyddol oedd a thuedd i wadu athrawiaethau clasurol fel duwioldeb Crist. Yr ail reswm oedd y canfyddiad fod yna ddiffyg ysbrydolrwydd i’w gweld yng nghapeli ac eglwysi Cymru o ganlyniad i ddylanwad materoliaeth a’r pwyslais ar y cymdeithasol.
Dywedodd Catherine Daniel mai un o’r prif resymau wnaeth eu harwain at dröedigaeth Gatholig oedd oherwydd iddi fethu canfod ‘unrhyw athrawiaeth gyson am yr Arglwydd Iesu’ ymhlith y traddodiad anghydffurfiol. Beirniadaeth debyg a glywir yn aml gan efengylwyr. Prif reswm Saunders Lewis oedd diffyg ysbrydolrwydd a’r ymdeimlad o alwad at addoliad ‘pur’ yr Offeren Gatholig. Er nad yw’r sacrament a rôl bwysig i lawer o efengylwyr mae yna naratif o weld eisiau ‘ffoi’ o ddiffyg ysbrydolrwydd yr enwadau i ffurf uwch neu fwy ‘pur’ o Gristnogaeth. Ond yng ngrym y bregeth eneiniedig a chynhesrwydd y cyfarfod gweddi y canfyddir purdeb addoliad i’r efengylwyr nid yn yr Offeren Gatholig.
Tröedigaeth
Thema arall a dynnodd fy sylw oedd y syniad o ‘dröedigaeth’. Mae’r cysyniad o dröedigaeth yn ganolog i’r traddodiad Catholig a’r traddodiad efengylaidd fel ei gilydd. Ond yr hyn sy’n ddiddorol yw bod y term yn cael ei ddefnyddio yn llyfr Ioan Roberts i ddisgrifio pan fo rhywun fel Saunders Lewis neu Harri Pritchard Jones yn troi o’r ffydd Brotestannaidd ac yn ymuno a’r Eglwys Gatholig; hynny yw, tröedigaeth eglwysig, neu newid ffydd yn hytrach ‘na dod i gredu. Ond yn y traddodiad efengylaidd mae’r syniad o dröedigaeth fwy i wneud a ffydd bersonol ac ail-enedigaeth; hynny yw, rhywbeth rhwng pobl a Duw heb fod ymuno ag eglwys o’r rheidrwydd yn rhan o’r peth. Dyma sydd tu ôl y mantra ‘nid wyf yn grefyddol, dwi’n berson a pherthynas bersonol a Christ’ a pham y bod rhai efengylwyr (nid pawb!) yn meddwl y gallwch chi fod yn Gristion heb berthyn i eglwys. Erbyn hyn rwy’n credu fod y traddodiad efengylaidd wedi datblygu diwinyddiaeth well o gylch eglwysyddiaeth a bod ‘dod yn Gristion’ llawn gymaint â dod i berthyn i’r eglwys, pobl Dduw, ag ydi e ynglŷn â meddu ar ffydd bersonol.
Ennill Cymru i Grist
Yn y bôn, mudiad cenhadol oedd y Cylch Catholig i ddechrau. Criw dethol oedd wedi derbyn galwad i droi’r Cymry yn ôl at yr ‘hen ffydd’, y ffydd Gatholig. Yn yr un modd, cenhadaeth oedd ac yw thema fawr efengylwyr ac mae’r naratif ‘Ennill Cymru i Grist’ wedi bod yn bwysig i’r Mudiad Efengylaidd erioed. Ond i’r efengylwyr wrth gwrs galw Cymru yn ôl i Gristnogaeth Awstinaidd Brotestannaidd yw’r weledigaeth. Mae’r ddau draddodiad eisiau galw’r Cymry yn ôl at Gristnogaeth “bur”, er bod eu syniad o beth yw’r Gristnogaeth honno yn bur wahanol! ‘Restorationism’ fyddai un ffordd o ddeall gweledigaeth y Cylch Catholig a’r Mudiad Efengylaidd fel ei gilydd.
Roedd hi’n ddiddorol darllen fod gweithgareddau cyhoeddus y Cylch Catholig wedi ffocysu o gwmpas tair prif elfen sef: i.) enciliau blynyddol, ii.) cyhoeddi cylchgronau a iii.) presenoldeb cenhadol ar faes yr Eisteddfod. Er bod gweithgareddau’r Mudiad Efengylaidd yn llawer mwy eang na hynny mae’n ddiddorol nodi mai dyna, yn gyffredinol, ydy’r tair gwedd fwyaf cyhoeddus gwaith y Mudiad Efengylaidd ymhlith y Cymry Cymraeg hefyd. Trefnu cynhadledd flynyddol yn Aberystwyth, cyhoeddi’r Cylchgrawn Efengylaidd, a chynnal stondin at ddiben efengylu ar faes yr Eisteddfod.
Crefydd y werin?
Fodd bynnag, er y tebygrwydd mae yna wahaniaethau sylfaenol rhwng y Cylch Catholig a’r Mudiad Efengylaidd, mwy na dim ond gwahaniaethau diwinyddol hefyd. Yn y degawdau cynnar roedd y Cylch Catholig yn gymharol uchel-ael a hyd yn oed yn ‘aristocrataidd’ yn ôl Ioan Roberts, yn bennaf oherwydd dylanwad un dyn sef Saunders Lewis. Maes o law fe ddaeth teulu Ystâd Garthewin yn ddylanwad mawr hefyd ac mae’n amlwg fod mwynhau lletygarwch a nawdd teulu boneddigaidd yn fwy nag derbyniol gan Saunders. Ond symudiad gwerinol bu’r Mudiad Efengylaidd o’r dechrau gyda rhai o’u harweinwyr mwyaf dylanwadol, fel fy nhad-cu fy hun, yn blant i lowyr a chwarelwyr ac a chynhesrwydd gwerinol yn eu Cristnogaeth anghydffurfiol ddiwygiedig a diwygiadol. Nid hanesion am fwynhau lletygarwch ar ystadau boneddigaidd a nodweddid pobl y Mudiad Efengylaidd, ond yn hytrach lletygarwch teuluoedd fferm fynydd Bryn Uchaf Llanymawddwy neu gartref gwerin Bryn Powys yng Nghaernarfon.
Her heddiw
Ond beth am y sefyllfa heddiw wrth edrych yn ôl ar ganrif o hanes y Cylch Catholig a tri chwarter canrif yn hanes y Mudiad Efengylaidd? Er y duedd wrth-Gatholig ymhlith efengylwyr mae’n bwysig cydnabod fod genesis tröedigaeth Gatholig pobl fel Saunders a gweld sefydlu’r Mudiad Efengylaidd maes o law yn perthyn i’r run stori. Fel y mae pobl eraill wedi dangos mae’r ddau yn adwaith ceidwadol i ryddfrydiaeth oedd wedi colli calon Cristnogaeth. Un yn ymateb Catholig i’r argyfwng ffydd, a’r naill yn ymateb Protestannaidd, ond y ddau yn apelio at uniongrededd. Ar ryw wedd mae’n annheg cymharu’r Cylch a’r Mudiad, ond eto mae’n ddiddorol nodi fod eu calon a’u sêl genhadol yn ddigon tebyg sef eu dyhead i alw Cymru yn ôl at yr ‘hen ffydd’.
Ond beth yn union yw’r ‘hen ffydd’ honno? Ni fyddai cyfeillion y Cylch Catholig yn gyfforddus gyda isel-eglwysyddiaeth y Piwritaniaid yn yr un modd ac na fyddai’r efengylwyr yn gyfforddus a Christnogaeth Gatholig Cymru’r Oesoedd Canol. Ond tybed, o fynd yn bellach yn ôl eto y gallwn ddarganfod undod o gwmpas ein gwreiddiau yn yr eglwys Geltaidd … os oedd yna’r fath beth yn bod?
Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad,
Buchedd Garmon, Saunders Lewis
i’w thraddodi i’m plant, ac i blant fy mhlant,
yn dreftadaeth dragwyddol.
Ac wele’r moch yn rhuthro arni, i’w maeddu.
Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion,
cyffredin ac ysgolhaig,
Deuwch ataf i’r adwy,
Sefwch gyda mi yn y bwlch,
fel y cadwer i’r oesoedd a ddel y glendid a fu.
Nodyn i esbonio un peth: Mae ‘Mudiad Efengylaidd Cymru’ yn elusen sy’n cefnogi Cristnogion o duedd efengylaidd sy’n perthyn i unrhyw eglwys/capel, eglwysi ‘Efengylaidd’ neu eglwysi/capeli sy’n perthyn i enwadau fel Eglwys Bresbyteraidd Cymru ayb… Nid enwad yw’r ‘Mudiad Efengylaidd’. Yn yr un modd nid yw pob Cristion neu Eglwys/Capel sy’n arddel diwinyddiaeth efengylaidd yn ymlynu wrth y ‘Mudiad Efengylaidd’. Yn yr erthygl hon rwy’n siarad am ‘efengylwyr’ yn gyffredinol, ac weithiau yn siarad am y ‘Mudiad Efengylaidd’ (Mudiad Efengylaidd Cymru) yn benodol.