Eleni fe wnes i gyfarfod Sasha Flek o’r Weriniaeth Siec, fe wnaeth e ymweld a Chymru gyda Phil Wyman. Sasha yw “Arfon Jones y Weriniaeth Siec”, y dyn sydd tu ol i’r cyfieithiad mwyaf cyfoes o’r Beibl yno. Prosiect arall mae Sasha wedi gweithio arno yw aralleiriad o’r Efengylau sydd wedi eu gosod yn y Weriniaeth Siec heddiw ac mae’r llyfr yn best-seller allan yna, nid dim ond ymysg Cristnogion yn ymhlith darllenwyr yn gyffredinol. Wedi fy ysbrydoli gan hynny dyma ymgais, hanner tafod yn y boch/hanner ceisio dweud gair proffwydol, i osod hanes Gwinllan Naboth o 1 Brenhinoedd 21 ym Mhrydain heddiw.
Roedd gan bobl o’r enw’r Brythoniaid winllan reit wrth ymyl palas Borab, Prif Weinidog Ynys Kedyrn. A dyma Borab yn gwneud cynnig i gynulliad y Brythoniaid, “Rhowch eich gwinllan i mi, i mi gael ei throi hi’n farchnad i’r byd gan ei bod hi reit wrth ymyl y palas. Gwna i roi gwinllan well i chi yn ei lle hi. Ond dyma gynulliad y Brythoniaid yn gwrthod, “Na, dim ar unrhyw gyfri! Mae’r tir wedi perthyn i’r teulu ers cenedlaethau; allwn ni byth ei rhoi hi i ti.” Felly dyma Borab yn mynd yn ôl i’r palas yn sarrug a blin am fod cynulliad y Brythoniaid wedi gwrthod rhoi’r winllan iddo. Dyma fe’n gorwedd ar ei wely wedi pwdu, a gwrthod bwyta. Yna dyma Jezings, ei ymgynghorydd arbennig, yn dod ato a gofyn, “Pam wyt ti mewn hwyliau mor ddrwg ac yn gwrthod bwyta?” A dyma fe’n dweud, “Gwnes i ofyn i gynulliad y Brythoniaid werthu eu gwinllan i mi; neu os oedd yn well ganddynt, gwnes i gynnig ei chyfnewid hi am winllan arall. Ond maent wedi gwrthod rhoi’r winllan i mi.” A dyma Jezings yn dweud, “Wyt ti’n Brif Weinidog Ynys Kedyrn neu ddim? Tyrd, bwyta rywbeth. Cod dy galon! Gwna i gael gafael ar y winllan i ti.”
Aeth ati i lunio hysbysebion Facebook a newyddion ffug yn enw Borab, rhoi sêl y Prif Weinidog arnyn nhw, a’u hanfon at yr arweinwyr a’r bobl bwysig oedd yn byw yn yr un gymuned â chynrhychiolwyr cynulliad y Brythoniaid. Dyma ysgrifennodd ef: “Cyhoeddwch ddiwrnod o ymprydio, a rhoi bradychwyr Ynys Kedyrn i eistedd mewn lle amlwg o flaen pawb. Yna ffeindiwch bobl drwg a’u gosod nhw i eistedd gyferbyn â nhw, a’u cael nhw i gyhuddo cynrhychiolwyr cynulliad y Brythoniaid yn gyhoeddus o fod wedi melltithio Duw â Phrif Weinidog Ynys Kedyrn. Wedyn ewch â nhw allan a thaflu cerrig nes byddant wedi marw.”
Dyma arweinwyr a phobl bwysig y gymuned yn gwneud yn union fel roedd Jezings wedi dweud. Yna, dyma nhw’n anfon neges ato, “Mae cynrhychiolwyr y Brythoniaid wedi cael eu ladd gyda cherrig.”
Y funud y clywodd Jezings fod cynrhychiolwyr y Brythoniaid wedi marw, dyma fe’n dweud wrth Borab, “Cod, cymer y winllan roedd cynrhychiolwyr y Brythoniaid wedi gwrthod ei gwerthu i ti. Dydy nhw ddim yn fyw; maen nhw wedi marw.” Pan glywodd Borab hyn, dyma fe’n mynd i lawr i’r winllan i’w hawlio hi iddo’i hun.
Ond yna, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Ginias, “Dos i gyfarfod Borab, Prif Weinidog Ynys Kedyrn. Cei hyd iddo yng ngwinllan y Brythoniaid. Mae wedi mynd yno i hawlio’r winllan iddo’i hun. Dwed wrtho, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ar ôl llofruddio’r bobl, wyt ti hefyd am ddwyn eu heiddo?’ Dwed wrtho hefyd, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Lle bu’r cŵn yn llyfu gwaed cynrhychiolwyr y Brythoniaid, bydd cŵn yn llyfu dy waed di hefyd – ie, ti!’”
Dyma Borab yn dweud wrth Ginias, “Felly, fy ngelyn i, ti wedi dod o hyd i mi!” A dyma Ginias yn ateb, “Ydw, dw i wedi dod o hyd i ti. Ti’n benderfynol o wneud pethau sy’n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD! Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i’n mynd i wneud drwg i ti, a dod â dy linach i ben. A dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jezings, ‘Bydd cŵn yn bwyta Jezings o fewn waliau Kedyrn.’
Fuodd yna neb tebyg i Borab, oedd mor benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac roedd Jezings ei ymgynghorydd yn ei annog e. Pan glywodd Borab neges Ginias, dyma fe’n rhwygo’i ddillad a gwisgo sachliain, a mynd heb fwyd. Roedd yn cysgu mewn sachliain ac yn cerdded o gwmpas yn isel ei ysbryd. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Ginias, “Wyt ti wedi gweld fel mae Borab wedi plygu mewn cywilydd o mlaen i? Am ei fod yn edifar, wna i ddim dod â’r drwg yn ystod ei fywyd e. Bydda i’n dinistrio’i linach pan fydd ei fab yn brif weinidog.”