Mae jest yn natur hadau i dyfu. Heblaw am ddarparu’r amodau cywir i ganiatáu i hyn ddigwydd does dim byd arall – yn ymarferol – gallw ni wneud. Mae yr hedyn jest yn tyfu o’i ran ac o’i natur ei hun – dyna mae e’n gwneud – dydy e’n gwybod dim byd arall!

Ac wrth drio cymhwyso Dameg yr Hedyn Mwstard i’n bywydau ni fel unigolion ac fel eglwys mae’n bwysig ni gofio’r wers yna.

Mae’r deyrnas yn tyfu, weithiau yn y dirgel, ac mewn ffordd ryfeddol ac annisgwyl. Mae’n tyfu yn y bobl sy’n clywed ac yn rhoi croeso i eiriau Iesu yn eu bywydau. Mae’n tyfu yn y byd o’n cwmpas. Yn ein cymunedau a’n cymdeithas. Mae’r deyrnas yn tyfu. Dyna mae’n gwneud.

Mae’n hawdd llithro i feddwl mai ni a’n hymdrechion sy’n tyfu’r Deyrnas. Nid felly y mae hi. Mae hyn yn rhywbeth y dylem atgoffa ein hunain ohono’n rheolaidd. Nid oes dim y gallwn ei wneud i gael y Deyrnas i dyfu – fel hadau, mae yn natur y deyrnas i dyfu.

Un peth mae Duw wedi bod yn dweud wrtha i dros y flwyddyn diwethaf wrth i ni fel eglwys gael ein gorfodi i arafu ein prysurdeb yw fod angen i ni ganolbwyntio llai ar yr ‘tyfu’ a rhoi mwy o sylw i ‘glirio’r tir’ er mwyn gadael iddo Fe wneud y tyfu.

Pan o ni’n trio tyfu llysiau yn yr ardd roeddwn i’n ffysian gormod, troi y tir unwaith yn ormod, gormod o ddŵr, pocian fan hyn, sbecian fan draw. Gymaint o amharu nes mewn gwirionedd roeddwn i’n tagu a stopio y planhigion rhag tyfu. Be oedd angen i fi wneud mewn gwirionedd oedd camu nol – a rhoi llonydd i’r had wneud beth mae had yn gwneud – tyfu!

Ac mae hynny yn wers i ni fel eglwys dwi’n meddwl. Dwi wir yn teimlo galwad i ni ail-ddarganfod symylrwydd rhythym bywyd eglwys.

Yn gyntaf, dwi’n meddwl ein bod ni wedi gor-gymhlethu pethau o ran ein rhaglen – yn arbennig felly am eglwys o’n maint ni. Cyn y Pandemig roedd unrhyw sgwrs am ddatblygu ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth bob tro yn arwain at drefnu rhyw fath o gyfarfod ychwanegol. Trio gwasgu mwy allan o’r amser, adnoddau a phobl oedd yn brin yn barod.

Dwi’n meddwl hefyd ein bod ni wedi gor-gymhelthu pethau o ran yr iaith rydym ni’n defnyddio hefyd wrth drio diffinio ein gweledigaeth a beth ‘da ni am’ fel eglwys. Canlyniad hyn yw ein bod ni fel eglwys ddim cweit yn deall ein gilydd heb sôn am fod pobl o’r tu allan yn ein deall. Ac lle mae yna gam-ddealltwriaeth mae yna’n aml wrth-daro a chalonau briwiedig – a weithiau, Gweinidog, sy’n teimlo allan o’i ddyfnder.

Dwi’n meddwl hefyd ein bod ni efallai a disgwyliadau rhy uchel o’n gilydd ac o’r eglwys, ond efallai ddim digon uchel o Dduw ei hun. Mae angen i ni gamu nol, arafu – canolbwyntio ar ein bywyd gweddi, bod yn y gair a gofyn am fywyd yr Ysbryd ar hynny – a jest gadael i’r Deyrnas dyfu.

Wrth i ni ddechrau edrych ymlaen a breuddwydio am ein bywyd fel eglwys ar ôl y Pandemig dyma mae Duw wedi bod yn argraffu ar fy nghalon i. Dwi wedi sôn o’r blaen am yr alwad i’r eglwys brofi diwygiad (reformation) newydd. A’r tro hwn cael y tri egwyddor yma wrth wraidd y diwygiad hwnnw: Gostyngeiddrwydd, Integriti a Symlrwydd (Humility, Integrity and Simplicity).

Dwi’n meddwl ein bod ni angen stopio rhoi ein gobaith yn y rhaglen nesaf. Stopio rhoi ein gobaith mewn rhyw weledigaeth newydd, neu rhyw strategaeth wahanol. Oherwydd mae allwedd y Deyrnas yn syllu reit atom ni:

‘Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.’ (Mathew 11:28)

Iesu ei hun. Nid rhaglen sy’n sôn am Iesu. Nid gweledigaeth sy’n torri Iesu mewn i bedwar rhan a phen. Ond Iesu ei hun!

Please follow and like us: