Oherwydd mod i wedi neilltuo ychydig bach gormod o fy amser i brosiectau eraill a gan mod i’n mynd i Gaerdydd am rai diwrnodau wythnos nesaf maen rhaid i mi ganolbwyntio ar fy ngwaith ymchwil wythnos yma. Ond cyn iddi hi fynd yn hen newyddion dyma adroddiad byr am ddigwyddiadau’r penwythnos yn Aberystwyth. Fe gymerais i rai ym Mhrotest y Gymdeithas yr erbyn y Llywodraeth oherwydd fod LCO arfaethedig y Llywodraeth yn gwrthod trosglwyddo holl bwerau deddfu dros y Gymraeg o Lundain i Gaerdydd. Mae hynny yn golygu yn y bôn mae dim ond mewn rhai sfferau o gymdeithas y bydd gan siaradwyr Cymraeg hawliau cyfartal. I mi mae hawliai ieithyddol yn ddu a gwyn; nai llai rydych chi’n rhoi hawliau cyfartal neu dydy chi ddim. Os nad ydy’r Llywodraeth yn rhoi hawliau cyfartal i siaradwyr Cymraeg yn y sffêr neu’r sector gyhoeddus a phreifat yna dydy’r Llywodraeth ddim yn credu mewn hawliau cyfartal ac mae hynny yn yr Unfed Ganrif ar Hugain yn ffieiddbeth.
Does dim amser i ymhelaethu nawr ond gan fod trafodaethau a lobio heb gael dim effaith dros y ddwy flynedd diwethaf a fod y Llywodraeth wedi gwrthod hyd yn oed ystyried rhoi hawliau cyfartal i siaradwyr Cymraeg yn y sector breifat fe benderfynodd y Gymdeithas a fi fel aelod gyda nhw fod angen newid trywydd yr ymgyrch i ddangos difrifoldeb y sefyllfa. Yn unol a traddodiad Ghandi, Luther King ac arweinwyr hawliau rhyddid eraill fe gymerais ran mewn gweithred o anufuddod-sifil er mwyn dwyn sylw i’r diffyg hawliau cyfartal. Do fe dorrais gyfraith y wladwriaeth Brydeinig ond bum yn ufudd i’r gyfraith uwch sef cyfraith cyfiawnder sy’n deillio o Benarglwyddiaeth Iesu dros y pwerau daearol.
Fe hoffwn ni ymhelaethu ond nid oes amser am y tro felly dyma rai lluniau o’r diwrnod diolch i Aled Griffiths: