“Aeth hi’n gymaint o ffrae rhyngddyn nhw nes iddyn nhw wahanu.” Actau 15:39
Yn gam neu’n gymwys mae anghydweld, dadleuon ac ymrannu wedi nodweddu hanes Cristnogaeth dros ddau fileniwm. Mae wedi digwydd am amrywiol resymau. Weithiau oherwydd bod Cristnogion a phrofiadau gwahanol yn methu deall ei gilydd, dro arall oherwydd gwahaniaethau diwylliannol ac wedyn ceir gwahaniaethau o ran credo hefyd. Ond waeth i ni fod yn onest fod tipyn o’r rhannu wedi digwydd oherwydd y faith syml fod Cristnogion, fel pawb arall, yn bechaduriaid sy’n gadael i wendidau ein personoliaeth a’n cymeriad fynd yn drech na ni weithiau.
Byddai rhai yn dweud mod i’n arbenigwr ar hyn! Mae yna adegau lle dwi wedi gadael y sgwrs am wahaniaeth barn droi yn ddadl a’r ddadl honno yn ei dro droi yn sur. Dro arall mae’n siŵr mod i wedi cuddio gwahaniaethau personoliaethol tu ôl i fwgwd diwinyddol ymhonus. ‘Daeth y Meseia Iesu i’r byd i achub pechaduriaid – a fi ydy’r gwaetha ohonyn nhw.’ (1 Timotheus 1:15) Dim ond i ddweud mai gyda gostyngeiddrwydd felly rwy’n mentro dweud rhywbeth am y pwnc anodd ond pwysig hwn.
Cristnogion yn anghydweld: yr ymateb diwinyddol
Ym mhob cenhedlaeth mae’n rhaid i’r eglwys frwydro o blaid y ffydd a roddwyd unwaith i’r saint. (Jwdas 1:3) Dydy hyn ddim yn dasg hawdd, yn arbennig pan mae gwahanol Gristnogion ac eglwysi yn dal safbwyntiau gwahanol ynglŷn â beth yn union yw sylwedd y ffydd a roddwyd unwaith i’r saint.
Rai blynyddoedd syrthiodd un o fynychwyr y Clwb Ieuenctid yng Nghaersalem wrth chwarae un o’r gemau. Dyma ni’n mynd a hi adre a chynnig mynd a hi ymlaen i’r ysbyty. Dyma oedd y tro cyntaf i fi ymweld ag Uned Anafiadau Brys Ysbyty Gwynedd, ac roedd yn agoriad llygad. Roedd hi tua 8yh ar nos Fercher, ond roedd yr ystafell aros yn llawn – a phobl yn parhau i gyrraedd trwy’r amser. Roedd hi tua 11yh arnom yn cael gweld meddyg ac yn nes at 1yb arnom yn cyrraedd adre.
Buom yn aros cyhyd oherwydd bod system triage ar waith. Gair Ffrangeg yw triage sy’n golygu “sortio allan” – a dyna oedd yr Ysbyty yn gwneud y noson yna. Nid oedd y staff yn rhoi sylw i’r cleifion ar sail ‘cyntaf i’r felin’, ond yn hytrach roedd cleifion yn cael sylw ar sail pa mor ddifrifol â brys oedd eu cyflwr. Felly er bod y ferch druan mewn ychydig o boen, roedd y dyn oedd a gwaed yn llifo allan o’i ben neu’r wraig oedranus gyrhaeddod mewn Ambiwlans yn cael mynd mewn o’n blaen ni.
Wrth ddarllen erthygl gan Albert Mohler Jr. rai blynyddoedd yn ôl y clywais y gyffelybiaeth triage yn gyntaf. Pan mae’r Eglwys yn wynebu amrywiaeth barn a Christnogion yn anghydweld mae’n bwysig i ni hefyd ymarfer rhyw fath o triage diwinyddol. Mae’n bwysig i ni bwyso o mesur beth yw’r cwestiynau, y materion a’r athrawiaethau sydd o bwysigrwydd cyntaf, beth wedyn sydd ychydig llai pwysig ac yna beth nad sy’ o bwys yn y byd. Y syniad ydy y bydd rhoi trefn – triage – ar faterion a chwestiynau yn ein helpu i gael y persbectif cywir wrth i ni wynebu sefyllfaoedd lle mae Cristnogion yn anghydweld.
Byddai materion o bwysigrwydd cyntaf yn cynnwys yr athrawiaethau sy’n fwyaf canolog a hanfodol i’n ffydd. Ymhlith yr athrawiaethau cyntaf yma byddai pwy a beth yn union yw Duw – yn benodol crêd yn y Drindod, ein bod yn credu mewn un Duw sy’n dri pherson yn Dad, yn Fab ac yn Ysbryd Glân. Ac yn arwain o hynny ein crêd yn nuwdod a dyndod Iesu Grist, hynny yw bod Iesu yn Dduw ac nid jest yn esiampl ddynol – ‘mewn purdeb heb gymysgu’ fel dywedodd un o’n diwinyddion praffaf erioed, Ann Griffiths. Byddwn i hefyd yn cynnwys credu fod Crist wedi marw ar y Groes i gymodi popeth ac wedyn ei fod wedi Atgyfodi’n gorfforol.
Yn y bôn, ymhlith y materion o bwysigrwydd cyntaf yw’r pethau sydd wedi eu crynhoi yn y Credoau hynafol fel y Credo Apostolaidd a Chredo Nicea. Dyna pam fy mod i, er yn arwain eglwys anghydffurfiol, wedi cychwyn gwneud adrodd y credoau yma yn rhywbeth sy’n digwydd yn rheolaidd fel rhan o’n haddoliad. Rwy’n credu fod cysylltu yn ôl gyda’r hen gredoau yma yn ein helpu i chwythu bloneg diwinyddiaeth y canrifoedd mwy diweddar i ffwrdd.
Mae’r ail ddosbarth o faterion lle mae gwahaniaethau yn gallu amlygu eu hunain yn faterion lle gall Gristnogion anghytuno. Nid bod y materion yma yn ddibwys ac na’ ddylech gael safbwynt a hwnnw’n safbwynt cryf weithiau amdanynt. Ond dydy e ddim yn wahaniaeth digon sylweddol i olygu na fedrwch chi weld y person yna fel brawd neu chwaer yn y ffydd. Efallai y byddwch chi’n perthyn i eglwysi lleol gwahanol, i enwadau gwahanol neu draddodiadau gwahanol. Ond erys y ffaith eich bod yn frodyr a chwiorydd yn y ffydd.
Byddai materion ail ddosbarth yn cynnwys pethau fel bedyddio. Rydw i’n credu o argyhoeddiad mae’r patrwm yn y Testament Newydd yw Bedydd crediniwr, tra bod Presbyteriaid ac Anglicaniaid yn credu’n gryf mae’r patrwm yw bedyddio plant i mewn i deulu’r eglwys.
Un arall sy’n parhau i fod yn dysen boeth mewn rhai cylchoedd yw rôl merched yn arwain a phregethu yn yr eglwys. Rydw i’n credu fod yna batrwm Beiblaidd i hyn tra bod eglwysi eraill yn credu’n bendant fod hyn yn anghywir. Mae gan bobl farn gref am hyn ac mae yn fater pwysig. Ond dydy e ddim yn fater digon pwysig i ystyried y Cristion neu’r eglwys sydd o farn wahanol i chi fel tase nhw ddim yn Gristnogion “go-iawn”.
Wedyn, o ran materion trydydd dosbarth byddwn i’n rhoi pethau fel estheteg addoli, a ddylai eglwysi gyfarfod mewn adeilad neu mewn tai. A ddylai Cristnogion fod yn llwyr ymwrthodwyr neu beidio? Yn aml bydd barn ar faterion trydydd dosbarth yn deillio o’u diwinyddiaeth ar faterion dosbarth cyntaf ac ail, ond yn ei hanfod bydd materion trydydd dosbarth ddim o bwys enfawr.
Rwy’n credu fod edrych ar y rhychwant o faterion lle mae Cristnogion yn anghydweld trwy brism triage yn rhoi persbectif i ni. Ond mae rhaid i ni fod yn ofalus hefyd o ddau eithaf. Ar un pen o’r sbectrwm fe gew chi rhai Cristnogion sy’n gwadu fod yna’r fath beth ac athrawiaethau canolog i’n ffydd. Yn anuniongyrchol maen nhw’n dweud fod croeso i chi gredu unrhywbeth chi eisiau – y peth pwysicaf yw jest dod ymlaen gyda’n gilydd mewn cariad. Ond problem hynny yw bod y cariad yna ddim wedi ei seilio ar unrhyw wirionedd a bod yr undod ddim wedi ei adeiladu ar unrhyw sylfaen. Dyma oedd gwendid Rhyddfrydiaeth Ddiwinyddol sy’n arwain yn y diwedd at hiwmanistiaeth sy’n gwadu Arglwyddiaeth Crist.
Ond wedyn yr her i ben arall y sbectrwm yw bod rhai Cristnogion yn codi pethau o’r ail ddosbarth – ac weithiau’r trydydd dosbarth hyd yn oed – i fod yn faterion dosbarth cyntaf. Felly bydden nhw’n codi’r mater o wahardd merched rhag pregethu i fod yn fater cyntaf, neu yn codi eu dehongliad penodol nhw o Genesis 1 i fod yn fater cyntaf, ac yna’n gwneud y mater yna yn brawf litmws o pwy yw’r Cristnogion ‘go-iawn’. Dwi’n credu mai dyma’r perygl i Gristnogion o’r traddodiad Efengylaidd ceidwadol a dyma un arwydd fod ffydd efengylaidd yn llithro i fod yn un ffwndamentalaidd.
Cristnogion yn anghydweld: yr ymateb bugeiliol
Ond beth bynnag am ein credo a’n diwinyddiaeth, mae ein personoliaeth, ein teimladau a’n emosiynau yn gymaint ffactor hefyd wrth ystyried sefyllfaoedd pan mae Cristnogion yn anghydweld. Mae hynny oherwydd bod cwestiynau ffydd yn ein heffeithio ar sawl lefel. I’r Cristion nid cwestiynau ymenyddol yn unig yw cwestiynau ffydd – ond dyma yw ein bara beunyddiol a dyma yw ein goleuni. Mae cwestiynnau diwinyddol yn ein effeithio yn bersonol oherwydd fod ffydd yn rhywbeth real a phersonnol. Ac felly, pan mae Cristnogion yn anghydweld mae angen ymateb Bugeiliol yn llawn gymaint â triage diwinyddol.
Mae angen gweld y person tu ôl y safbwynt. Mae angen gweld y galon tu ôl y cwestiwn. Mae angen gweld y cyd-destun tu ôl y dymestl.
John Morgan Jones a J.E. Daniel
Yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif roedd yna amrywiol draddodiadau diwinyddol yn bodoli o fewn Cristnogaeth Cymru. Ar un llaw mi oedd gyda chi Ryddfrydwyr Diwinyddol, ac ar y llaw arall roedd gyda chi Ddiwinyddion yr Uniongrededd Newydd oedd wedi eu cyfareddu gan syniadau Karl Barth. Draw ym Mangor, yng Ngholeg Bala-Bangor, mi oedd yna ddau athro – John Morgan Jones a J.E. Daniel.
Dau ffigwr disglair iawn a wnaeth gyfraniadau arbennig ac unigryw i ddatblygiad Cristnogaeth Cymru’r Ugeinfed Ganrif. Ond dau ffigwr oedd yn perthyn i ddau draddodiad diwinyddol gwahanol – roedd John Morgan Jones yn rhyddfrydwr diwinyddol tra roedd J.E. Daniel yn uniongredwr newydd.
Wrth ysgrifennu am Karl Barth unwaith, dyma oedd gan J.E. Daniel i ddweud am y rhyddfrydwyr diwinyddol yr oedd ef a Barth yn anghydweld a nhw – ac mae rhai wedi awgrymu mae siarad yn anuniongyrchol am ei gyd-weithiwr John Morgan Jones ydoedd:
“Mae llawer ohonom yn salach na’n diwinyddiaeth; diolch i Dduw fod llawer yn well na hi.”
Dyna wers bwysig gan J.E. Daniel felly ynglŷn â sut i drafod ein gwahaniaethau a sut i anghydweld yng ngoleuni gras a chariad Duw tuag atom.
“In Essentials Unity, In Non-Essentials Liberty, In All Things Love.” (priodolir i Awstin Sant)
Wyddwn i ddim fod Awstin Sant yn ysgrifennu Saesneg.Hydynoed yr un a aeth i Gaergaint.