Dwi wedi bod yn dilyn yr helynt hawl i fabwysiadu o asiantaethau mabwysiadu Eglwysig ers tipyn nawr ac mae wedi rhoi pen tost i mi. Ond dwi’n meddwl mod i wedi dod i safbwynt mor glir a medr dyn ddod iddo nawr. Felly dyma roi fy mhen ar y bloc – hyd yn oed os yr anghytunwch (a diau y gwnaiff y rhanfwyaf o ddarllenwyr y bloc) o leia deallwch fy safbwynt.

Er fod gennyf farn glir am wrywgydiaeth (ac wedi ei drafod yn gwbl agored gyda chyfaill i mi sydd o’r anian yna) hyderaf mod i’n dangos parch fel tasw ni’n dangos parch at unrhyw un arall, y math o barch y buaswn ni’n ei ddisgwyl i fi fy hun – dim mwy dim llai. Mae edrych i lawr ar wrywgydwyr gan Gristnogion yn gwbl anghywir oherwydd fel dywedodd yr Iesu; gadewch i hwnnw na syrthiodd daflu y garreg gyntaf. That rules me out felly. Er fod y Beibl yn glir ar y weithred wrywgydiol, nunlle yn y Beibl y maen dweud y dylid trin y bobl yna yn israddol nac yn wahanol – “Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.” (Rhuf 3:23) Wela i ddim sôn am wneud enghraifft o wrywgydwyr fan yna, yr unig air wela i ydy PAWB. Mae’r eglwys felly yn anghywir i wneud enghraifft.

Ond mae’r ddadl gyhoeddus am hawl cyplau hoyw i fabwysiadu gan asiantaethau mabwysiadu Eglwysig wedi symud ymlaen o’r ddadl draddodiadol am Gristnogaeth a Gwrywgydiaeth – ac i mi felly sy’n credu fod yr Eglwys yn anghywir i ddewis gwrywgydiaeth fel hitting point (Pam ddim meddwdod? Pam ddim y barus? ayyb…) dwi’n falch fod y ddadl wedi symud ymlaen at rywbeth y medra i gyfranogi i’r drafodaeth. Does dim diddordeb gennai i yn yr hitting point single issue o wrywgydiaeth.

Mae’r ddadl wedi symud tuag at yr issue ‘Church and State’ ac i ffwrdd o’r issue gwrywgydiaeth felly dyna pam mod i wedi dewis ei godi ar y blog. Mae yna egwyddorion mawr yn cael ei taflu i fyny yn yr awyr fan yma ac mae’n rhaid edrych ar rai egwyddorion Cristnogol. Lle mae eich teyrngarwch fel Cristion? Gyda’ch Duw neu gyda’r Wladwriaeth? Dyma rai adnodau perthnasol:

Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai’n casau’r naill ac yn caru’r llall, neu’n deyrngar i’r naill ac yn dirmygu’r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon. [Mathew 6:24]

[mae Iesu] ….yn feistr ar bob tywysogaethau ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob teitl a geir, nid yn unig yn yr oes bresennol, ond hefyd yn yr oes sydd i ddod. [Effesiaid 1:21]

Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i’r nef, ar ddeheulaw Duw, a’r angylion a’r awdurdodau a’r galluoedd wedi eu darostwng iddo. [1 Pedr 3:21]

Hefyd Datguddiad 13 yn ei gyflawnrwydd lle y portreadir Gwladwriaeth Anghrist, dyma 3 adnod sy’n sefyll allan i mi:

Ond hefyd cafodd y gallu i roi anadl i’r ddelw o’r anghenfil cyntaf, fel bod hwnnw yn gallu siarad a gwneud i bawb oedd yn gwrthod addoli’r ddelw gael eu lladd. Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen – ie, pawb! Yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision. Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw y marc, sef enw yr anghenfil neu’r rhif sy’n cyfateb i’w enw. [Datguddiad 13:15-17]

Er mod i’n weddol ryddfrydol fy agwedd, am Gristion Uniongred, at wrywgydiaeth, yn yr achos yma rwy’n credu fod y Wladwriaeth yn anghywir i orfodi rhywbeth ar gydwybod yr Eglwys a Christnogion. Mae yna asiantaethau mabwysiadu seciwlar allan yna, rhai gyda llaw a wrthododd cyfeillion i mi oedd y Gristnogion rhag mabwysiadu oherwydd iddynt nodi y byddai’r plentyn yn cael ei godi mewn teulu Cristnogol yn hytrach nag mewn teulu ‘niwtral’. Plwraliaeth ar y mater yma sydd yn syrthio dawelaf ar fy nghydwybod i – dylai asiantaethau Cristnogol fod yn rhydd o ymyrraeth y wladwriaeth ac fe ddylai rhai seciwlar fod yn rhydd oddi wrth ymyrraeth yr Eglwys.

O’i roi mewn cyd-destun gwahanol. Os ydy Crefydd yr Iddew Uniongred yn dweud mae dim ond yn yr iaith wreiddiol (Hebraeg?!) y dylid darllen y Torah mewn gwasanaeth yna ni fyddai Deddf Iaith Newydd yn dweud “tyff rhaid chi ddechrau ei ddarllen yn ddwy-ieithog nawr” na fyddai!? Wrth gwrs ddim. O’i roi mewn cyd-destun gwahanol mae’r ddadl yn erbyn ymyrraeth yn yr Eglwys yn dod yn dipyn cliriach tybiaf.

Dwi cytuno gyda’r Archesgobion Rowan Williams a John Sentamu pan ddywetsant ddoe; ‘…conscience should never be legistlated against’. Ond lle bod y Wladwriaeth yn ymyrryd ar ryddid Cristnogion a’r Eglwys fe wydd pawb beth yw fy ateb personol innau. Yn ngeiriau R. Tudur Jones: ‘…credwn mai ein braint a’n dyletswydd yw llefaru yn eu herbyn.’

Please follow and like us: