Maen edrych yn weddol sicr bellach y bod y pwerau iaith bydd yn cael eu trosglwyddo o Lundain i Fae Caerdydd mynd i fod yn bwerau cyfyngedig. Ni fydd unrhyw sôn am fesur fydd yn rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg mewn sfferau cyhoeddus sy’n cael eu rhedeg gan gwmnïau preifat oni bai am y cwmnïau preifat oedd yn gyrff cyhoeddus nol yn 1993 fel Dwr Cymru a Nwy Prydain. Maen rhaid i chi ddeall na fyddai trosglwyddo’r hawl i ddeddfu mewn sfferau cyhoeddus sy’n cael eu rhedeg gan gwmnïau preifat o’r rheidrwydd yn golygu y byddai Caerdydd yn penderfynu mynd lawr y llwybr yna; ond dydy’r Blaid Lafur yn Llundain ddim hyd yn oed yn fodlon ymddiried y fath drafodaeth i’r Cymry ym Mae Caerdydd. Ie, dyma ddiffiniad Prydain o “ddemocratiaeth.”
Mae hyn wrth gwrs yn siomedigaeth sylweddol. Yn dilyn methiant y papur dyddiol, llusgo traed ar fater sefydlu’r Coleg Ffederal ac yn awr mesur iaith fydd yn sylweddol wannach na’r hyn roedd y mudiad cenedlaethol yn obeithio amdano dydy pethau ddim yn edrych yn dda i Lywodraeth Cymru’n Un. Maen debyg fod llywodraeth y Cynulliad yn isel eu hysbryd a digyfeiriad ar hyn o bryd. Maen debyg fod y rheswm dros y digalondid yn cael ei wyntyllu yn erthygl Adam Price yn Golwg yr wythnos diwethaf. Maen debyg i Betsan Powys roi ei bys ar y broblem ar Dragon’s Eye wythnos diwethaf hefyd, er na welais i y rhaglen. Mae’n ymddangos mai’r Blaid Lafur yn Llundain sy’n rheoli’r agenda ar hyn o bryd yn hytrach na’r Blaid Lafur, heb sôn am Blaid Cymru, yn y Cynulliad. Dydy hyn ddim yn newyddion da o gwbwl.
Ar bwy mae’r bai felly am beidio trosglwyddo pwerau i Gaerdydd fydd yn rhoi grym i’r Cynulliad roi hawliau i siaradwyr Cymraeg yn y sfferau cyhoeddus sy’n cael eu rhedeg gan gwmnïau preifat? Mae’r bai gwaelodol yn syrthio yng nghol y Blaid Lafur Gymreig (sic!) yn Llundain am barhau a’i hagwedd imperialaidd sydd nid yn unig yn perthyn i’r ugeinfed ganrif ond yn perthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg! Ond ni all Blaid Cymru roi’r bai i gyd yng nghol y Blaid Lafur oherwydd does dim tystiolaeth fod Alun Ffred Jones, Ieuan Wyn Jones a’u hymgynghorwyr wedi rhoi fawr bwysau ar Lafur i drosglwyddo pwerau a fyddai’n rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg mewn sfferau cyhoeddus sy’n cael eu rhedeg gan gwmnïau preifat. Ar Y Byd a’r Bedwar neithiwr roedd Alun Ffred Jones yn reit ffwrdd a hi ei agwedd tuag at y sector breifat a doedd dim elfen o siomedigaeth nac ymddiheuriad yn nhôn ei lais wrth iddo adrodd i bob pwrpas na fyddai fawr dim pwerau yn cael eu trosglwyddo i roi hawliau i siaradwyr Cymraeg yn y sfferau hynny. Waeth iddo fod wedi dweud: “dream on my friends”.
Byddai anoracs Plaid Cymru yn dadlau yn ôl a dweud mae diolch i’r Blaid ein bod ni wedi cael yr ychydig rydym wedi ei gael. Maen siŵr fod hynny yn wir, ond nawr fod y Blaid, maen debyg, wedi godro’r hyn allwn ni o Lundain am y tro ydy hi’n bryd i ddechrau pennod newydd a mynd nol yn wrthblaid i baratoi at y frwydr nesaf?