Dwi am fod yn rili capelaidd nawr! Dwi wrth fy modd efo stand yps fel Tudur Owen ac yn ddiweddar pan wnes i weld Elis James yn Cofi Roc ro ni’n meddwl ei fod e’n athrylithgar. Ond un peth sy’n mynd ar fy nerfau i ydy pan ma stand yps jest yn deud jocs brwnt ac yn rhegi for the sakes of it. Dydy e ddim yn cryfhau eu set, i’r gwrthwyenb mae e jest yn ei gwneud hi’n amlwg eu bod nhw’n cuddio eu diffyg digrifwch go-iawn. Mewn ffordd, mae’r fideo yma a’r un blaenorol gan Arnallt yn dangos fod modd bod yn ddoniol heb regi a heb ddweud jocs brwnt.
O diar, dwi rili wedi swnio’n gapelaidd a hen ffasiwn nawr yn do?
Wel, mwynhewch y fideo beth bynnag:
Hiwmor Jonathan Thomas from Llanw on Vimeo.
Please follow and like us: