Yn ystod fy nhymor sabothol dwi wedi cael cyfle i edrych yn ôl dros ddeg mlynedd cyntaf fy ngweinidogaeth ac adlewyrchu ar ambell beth. Dwi am fentro rhannu ychydig o’r meddyliau dros y misoedd nesaf yn y gobaith y bydd o gymorth i rywun mewn rhyw ffordd. 

I DORRI CRIB FY MALCHDER

Dim ond wrth edrych yn ôl rwy’n gallu gwerthfawrogi pa mor ifanc a dibrofiad oeddwn i wrth ddechrau fel Gweinidog. Ar y pryd roeddwn yn llawn hyder, ychydig yn drahaus ond yn bennaf yn naïf. Yn fuan iawn daeth gwrthwynebiad a phrofiadau anodd y weinidogaeth i’m rhan. Cofiaf un teulu yn mynegi eu hanniddigrwydd gyda phwyslais fy mhregethu a’r shifft fwy mwy tuag at addoliad cyfoes yn y gwasanaethau. 

Fe’m cyhuddwyd o fod yn heretic gan rai, ac wrth edrych yn ôl dylwn wedi bod yn fwy clir beth roeddwn yn credu a beth nad oeddwn yn credu. Ond yn unol gyda fy ngweledigaeth o uniongrededd hael rwy’n credu ei bod yn iach meithrin eglwys sy’n aeddfed i allu cymryd y da lle y gwelir gan adael yr hyn nad yw’n fuddiol. Mentro defnyddio un o ffilmiau Rob Bell wnes i, a hyd heddiw rwyf yn parhau i rannu un o ffilmiau Rob Bell gyda chyfeillion sy’n wynebu trallod sef NOOMA 024 – WHIRLWIND, sef ffilm fer sy’n bennaf yn ddarlleniad plaen o lyfr Job ac yn gysur i bobl sy’n wynebu profedigaethau heb fod yna esboniad a datrysiad hawdd i’w poen.   

Fe wynebais sawl sefyllfa Fugeiliol anodd yn fuan yn fy ngweinidogaeth, gan fy mod i dal yn Fyfyriwr Gweinidogaethol yn fy mlwyddyn gyntaf bu’n rhaid i mi arwain fy angladd cyntaf cyn i mi dderbyn yr hyfforddiant ar sut i wneud angladd gan y Coleg! 

Bu cyfnodau hefyd pan roedd aelodau yn dod ata i gyda chŵyn am yr hyn a’r llall yn yr eglwys, a byddwn i yn aml yn ymateb yn ymosodol o amddiffynnol heb werthfawrogi mai person bregus yn aml oedd tu ôl y gŵyn. Dysgais dros amser fod angen adnabod a bugeilio’r galon fregus cyn ateb y broblem honedig. Cofiaf hefyd ymweliadau a charchar a sawl ysbytu, roedd cerdded y llwybr yma gyda’r teuluoedd yn brofiad ffurfiannol hefyd. Ceisiais fy ngorau i fugeilio’r holl sefyllfaoedd hyn a mwy heb unrhyw wir hyfforddiant tu hwnt i’r doethineb y gellir ei godi mewn sgwrs ffôn gyda Gweinidogion eraill a chefnogaeth gyson eraill o fewn yr eglwys heb sôn am y fagwraeth Gristnogol ac empathetig y ces i gan fy rhieni.

Ond bu i’r holl brofiadau anodd a ffurfiannol yma dorri crib fy malchder, fy hyder a fy naïfrwydd wrth ddechrau ar y gwaith. Daeth diwedd buan i fy niniweidrwydd yn y cyfnod yma oherwydd roedd yn gam enfawr, yn gam mwy nag yr oeddwn wedi ei ddychmygu wrth symud o arwain pethau fel Cyrsiau Alffa yn y Brifysgol i fod yn Weinidog ac arwain Eglwys a’r gofalon bugeiliol oedd yn dod gyda hynny. 

Bu i rai o’r profiadau anodd fy nghlwyfo’n ddwfn yn emosiynol ac ysbrydol a’m gadael yn berson gwahanol. Ar un wedd roedd angen i fy malchder gael ei dorri. Ond weithiau roedd delio gyda’r profiadau yma hefyd yn dwyn fy llawenydd ac yn gwneud i mi golli hyder yn fy ngalwad a phlannu hedyn yr hyn rwy’n gallu adnabod erbyn heddiw fel cyflwr meddygol o or-bryder.

Ond dros ddeg mlynedd yn ddiweddarach ac ochr arall i sawl camgymeriad, cyfnod o salwch a thymor sabathol dwi dal yma yn ymdeimlo a phrofi’r alwad i fod yn Weinidog yr Efengyl yn y Gymru ôl-Gristnogol hon. Y gwahaniaeth amwn i yw fy mod i’n deall yn well nawr beth mae’n ei olygu i fod yn llestr pridd: “Dyma’r trysor mae Duw wedi’i roi i ni. Mae’n cael ei gario gynnon ni sy’n ddim byd ond llestri pridd – ffaith sy’n dangos mai o Dduw mae’r grym anhygoel yma’n dod, dim ohonon ni.” (2 Corinthaidd 4.7)

Please follow and like us: