Dwi’n crio yn reit aml, weithiau pan dwi wedi fy nigalonni ond rhan fwyaf o adegau pan dwi’n cael fy atgoffa o holl fendithion Duw. Dwi hefyd yn crio pan dwi’n cael fy meddiannu’n llwyr gan syched i brofi mwy o’r Ysbryd Glân a gweld Duw yn prysuro ei Deyrnas yng Nghymru. Yn aml iawn hefyd mi fydda i’n crio wrth weld anghyfiawnder, weithiau ar y newyddion neu mewn raglen ddogfen neu weithiau wrth ddarllen y papur. Dwi yn bersonol emosiynol, ond dwi’n diolch i Dduw am hynny. Mae’n beth iach. Mae’r Beibl yn llawn o bobl sy’n crio – weithiau ar achlysuron trist – weithiau oherwydd eu syched i weld Duw yn symud – a weithiau yn crio dagrau o lawenydd. Roedd Iesu ei hun yn crio llawer. Gan fod crio yn rodd gan Dduw, dwi’n teimlo trueni dros bobl sydd methu crio’n hawdd. Yn ddiweddar mae llawer o bethau wedi bod yn pwyso arna i yn bersonol, dwi hefyd wedi gweld llawer o bethau yn pwyso ar bobl o nghwmpas i. Ond wythnos yma mae Duw wedi bod yn datglymu llawer o mhryder a’m gofid am wahanol bethau ac hefyd wedi cydnabod fod y baich sydd ar fy nghalon dros wahanol bobl a sefyllfaoedd yn anrhydeddus. Ces i fy mhlygu heddiw gan Dduw a ches ryddid i grio dros y gwahanol sefyllfaoedd hyn. Trwy’r crio fe gododd peth o’r baich ac roedd yn deimlad da. Dwi’n diolch i Dduw mod i’n berson sy’n gallu crio.
Please follow and like us: