Neithiwr ges i sgwrs ysgafn gyda ffrindiau am gerddoriaeth yr 80au ac, yn naturiol, daeth enw U2 i fyny yn y sgwrs wrth basio. Un o fy hoff ganeuon i ganddyn nhw yw ‘I Still Haven’t Found What I’m Looking For’, ail drac eu halbwm The Joshua Tree.
Wrth wrando ar y gân yn tyfu fyny yn llawn o fy sicrwydd efengylaidd roedd agnostigiaeth y gân yn fy anesmwytho braidd…
I have climbed highest mountains
I have run through the fields
I have run … crawled … scaled these city walls … kissed honey lips … Felt the healing in her fingertips … spoke with the tongue of angels … held the hand of a devil
But… I still haven’t found what I’m looking for.
Ond dim ond yn ddiweddar iawn dwi wedi gadael i coda y bennill olaf siarad…
I believe in the kingdom come
Then all the colors will bleed into one
Bleed into one
But yes I’m still running
You broke the bonds
And you loosed the chains
Carried the cross
Of my shame
Oh my shame
You know I believe it
Ond hyn yn oed wedyn mae’r gytan yn dod yn ôl…
I still haven’t found what I’m looking for.
Beth yw neges y gân? Wel, efallai nad anthem agnostigiaeth ydi hi wedi’r cyfan oherwydd nid oes rhaid gweld ffydd fel llyfr sydd wedi ei gau – mae modd cael sicrwydd ffydd ond dal syched i brofi mwy o brydferthwch a bywyd – ‘rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn i ddweud yn iawn amdano’.
Mae’n gân sy’n dathlu yr antur o chwilio a chanfod. “Ond yr ydym ni’n llefaru doethineb Duw a’i dirgelwch, doethineb guddiedig, a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n dwyn i’n gogoniant.” (1 Corinthiaid 2.7) Hyn yn oed ar ôl darganfod y “dirgelwch” mae’n cymryd oes bywyd a mwy i’w blymio. Diolch Bono!