Mae Menna, fel pob merch maen siŵr, wedi dotio gyda’r gyfres ‘I’d do anything’ – y gyfres ar y BBC i ganfod y Nancy nesaf. Mae Tara Bethan, ein Tara ni (!), allan wrth gwrs ond mae diddordeb Menna yn y rhaglen yn parhau. Ond wrth gwrs rhan o ffenomenon gyffredinol y byd darlledu yw’r gyfres ddiweddaraf yma oherwydd yn perthyn i’r un categori y mae’r rhaglenni canlynol: Pop Idol, X Factor, Stricktly Come Dancing, Dancing on Ice, Fame Academy ac wrth gwrs cyfresi fel I’d do Anything ac How do you find a girl like Maria. Fe ymddengys mae dyma yw big hitters y diwydiant teledu ar hyn o bryd gyda’r BBC ac ITV yr un fath. Maen rhaid mae apel rhagleni o’r fath yw’r cyfuniad od o berfformio a chystadlu, dyma yw’r peth mawr, y peth diweddaraf ar hyn o bryd ym myd teledu Anglo-Americanaidd.

Ond echnos pan oedd y rhaglen mlaen wnaeth e fy nharo i nad yw cysyniad y rhaglenni yma yn ddim byd newydd i ni yng Nghymru, nid yw’r rhaglenni yma yn ddim byd mwy na fersiynau cyfoes a jazzed-up o’r Eisteddfod!

Please follow and like us: