Cwestiwn sydd wedi codi ei ben unwaith yn rhagor ers yr etholiad (roeddem ni gyd ddigon call i beidio ei godi yn ystod yr ymgyrch etholiadol) ydy ‘Sosialaeth’ Plaid Cymru. Mae’r pwnc yn debygol o gael sylw arbennig dros dymor nesaf y cynulliad gan fod gan Leanne Wood bellach aelod newydd caled chwith yn y cynulliad gyda hi sef Bethan Jenkins. Mi ydw i wedi galw fy hun yn Sosialydd ers pan o ni tua 15, ac rhwng yr oedran o 15-18 roeddwn ni’n mynd mor bell a dweud mod i’n sosialydd o arlliw Marcsaidd. Roedd llun Che Guvera gyda mi ar y wâl, chi’n gwybod y math maen siŵr. Yr hyn a berodd i mi golli ysbryd sosialaeth galed i ddechrau oedd darganfod fod sosialaeth galed wedi, ac yn, wrth Gristnogol ac dan faner sosialaeth a comiwnyddiaeth y mae Cristnogion wedi eu erlid waethaf yn hanes yr Ugeinfed Ganrif. Nawr, rwy’n gwybod nad ydw i’n debygol o gael fy erlid gan Leanne Wood, Adam Price a Bethan Jenkins am fy Nghristnogaeth, fodd bynnag roedd y syniad yma o ddyrchafu ideoleg wleidyddol fel petae yn ddwyfol ac i gymryd lle Duw fel y dwyfol yn codi braw arnaf.

Yn ogystal a hyn roedd fy nghred yn y dyn syrthiedig yn peri cymhlethdod gyda credu mewn sosialaeth gomiwnyddol lwyr. Dwi’n cofio darllen pan oeddwn tua 18 fod sosialwyr yn credu fod modd dileu trachwant, cenfigen ac uchelgais bersonol drwy’r drefn addysg. Yn ogystal ag ymylu ar senario Orwell yn ‘1984’ dwi ddim yn credu fod y peth yn bosib beth bynnag – canlyniad a cyflwr y dyn syrthiedig yw trachwant a cenfigen ac ni all addysg byth dynnu rheini allan o galon pob dyn yn llwyr. Rhaid oedd trefn sosialaidd felly oedd yn cymryd i gyfri cyflwr naturiol farus dyn. Problem arall sosialaeth lwyr i mi oedd lle mae lle creadigrwydd a menter? Efallai fod gan y chwith galed atebion i hyn ond methais i a canfod rhai call.

Fodd bynnag ‘toedd troi i’r dde ddim yn opsiwn – roeddwn ni, oherwydd fy Nghristnogaeth, yn credu fod dyn yn syrthiedig ond roeddwn ni dal yn Gristion oedd yn credu fod adferiad yng Nghrist yn bodoli nid yn unig ar y lefel ysbrydol ond ar lefel cyfiawnder yn y byd. Wedi’r cyfan sosialaidd i raddau yw’r senario yn yr hanesyn yma am sut oedd Cristnogion yr eglwys fore yn cyd-fyw:

Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud “Fi biau hwnna!”. Roedden nhw’n rhannu popeth gyda’i gilydd. Roedd cynrychiolwyr Iesu yn cael rhyw nerth rhyfedd i dystio’n glir fod yr Arglwydd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac roedden nhw i gyd yn teimlo fod Duw mor dda tuag atyn nhw. Doedd neb ohonyn nhw mewn angen, am fod pobl oedd yn berchen tir neu dai yn eu gwerthu, ac yn rhoi’r arian i’r apostolion i’w rannu i bwy bynnag oedd mewn angen. Er enghraifft, Joseff, y dyn roedd yr apostolion yn ei alw’n Barnabas (sy’n golygu ‘yr anogwr’). Iddew o dras llwyth Lefi yn byw yn Cyprus. Gwerthodd hwnnw dir oedd ganddo a rhoi’r arian i’r apostolion. (Actau 4:32-37)

Mae’r hanesyn uchod yn seiliedig ar y ffaith fod pawb o’r gymuned wedi penderfynu cyfranogi i’r fenter, heb i bawb gyfranogi ni fuasai’r peth yn bosib. Nes ymlaen yn llyfr yr Actau mae son am griw wnaeth dorri cwys a pheidio cyfrannogi’n deg:

Roedd dyn arall o’r enw Ananias, a’i wraig Saffeira, wedi gwerthu peth o’u heiddo. Ond dyma Ananias yn cadw peth o’r arian iddo’i hun a mynd â’r gweddill i’r apostolion gan honni mai dyna’r cwbl oedd wedi ei gael. Roedd e a’i wraig wedi cytuno mai dyna fydden nhw’n ei wneud. 
Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, “Ananias, pam rwyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân trwy gadw peth o’r arian gest ti am y tir i ti dy hun! Ti oedd biau’r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â’r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!” (Actau 5:1-4)

Felly lle i droi? ‘Centre left’ dwi wedi bod yn galw fy hun ers rhyw dair mlynedd bellach ac pan fo cyfle yn codi dwi’n dyfynnu R. Tudur Jones pan ddywedodd hyn mewn llythyr at Gwynfor ddechrau’r 80au:

I mi mae’r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda’r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a’r cwbwl trwy ei gilydd a chyda’i gilydd yn galluogi pobl i fyw’n rhydd a ffyniannus – i mi, mae’r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall. – R. Tudur Jones

Am arddel y fath safbwynt mae sawl un wedi nodi wrtha i fod sy syniadaeth yn debyg i ‘One Nation Conservatism’ (ideoleg adain chwith y Blaid Geidwadol).

Dwi mewn theori ac egwyddor yn credu mewn ail-ddosbarthu cyfoeth ond y broblem sylfaenol yw sut? Os ydy’r chwith galed o fewn Plaid Cymru yn tybied fod modd gwneud hynny dros nos (neu o leiaf mewn tymor llywodraeth) drwy ail-strwythuro sylweddol ar y wladwriaeth a’r economi yna dangoswch i mi sut? Yr unig gynnig sydd erioed wedi bod yw’r cynnig sofietaidd a wnaeth, fel a wŷr pawb, fethu a hynny gyda steil. Tra bod y chwith galed yn dod ag ateb amgen gerbron yna rwy’n dawel fy nghydwybod yn rhwyfo yn llong gwleidyddiaeth chwith-ganol, democrataidd sosialaidd sy’n ceisio canfod hanner ffordd deg rhwng ail-ddosbarthu a hybu creadigrwydd a menter.

Ydw i’n sosialydd? Ydw dwi’n credu mewn ail ddosbarthu cyfoeth mewn egwyddor ac rwyf am hybu lles pawb yng Nghymru yn ddi-wahan.

Ydw i’n Sosialydd? Nac ydw fe ymddengys.

Please follow and like us: