Ymddheuriadau fod y blog wedi mynd yn dawel eto. Dwi wedi bod ffwrdd am gyfnod ar wyliau yn Sir Nottingham gyda’r teulu ac ers dod nol dwi wedi bod yn brysur yn paratoi pethau i’r Gymdeithas ac i’r Gorlan ar gyfer y ‘Steddfod wythnos nesa a dwi hefyd wedi bod yn trio cael peth gwaith ymchwil wedi ei wneud wythnos yma hefyd. Ond dwi wedi fy nghyflyru heddiw i bostio mewn ymatebn i’r stori newyddion tynnodd Menna fy sylw ato am y Prifathro sydd wedi ei ddal yn euog o beri marwolaeth bachgen a syrthiodd oddi ar risiau yn yr ysgol.

Mae’n stori tu hwnt o drist. Nid o ganlyniad i’r cwymp, yn uniongyrchol, y bu farw’r bachgen ond yn hytrach wedi iddo gyraedd yr ysbytu fe ddaliodd y niwmonia a’r hospital superbug ‘MRSA’ a dyna a’i laddodd yn y diwedd. Ofnadwy o drist ac mae fy nghalon yn crio dros deulu’r bachgen.

Ddim mod i am dynnu i ffwrdd o ddifrifoldeb a thristwch marwolaeth y bachgen bach ond i mi ddoe fe welwyd deddfau iechyd a diogelwch yn mynd yn rhy bell. Alla i ddim ei gweld hi’n gyfiawn fod Prifathro yn cael ei ddedfrydu yn euog o beri marwolaeth a’r sail nad oedd y grisiau yn saff. Diffiniad y geiriadur o ‘accident’ ydy:

1. an undesirable or unfortunate happening that occurs unintentionally and usually results in harm, injury, damage, or loss; casualty; mishap: automobile accidents.
2. Law. such a happening resulting in injury that is in no way the fault of the injured person for which compensation or indemnity is legally sought.

Fe fedrai werthfawrogi sut y dylai teulu’r bachgen dderbyn ‘compensation’ gan y Cyngor Sir o bosib ond roedd dedfrydu’r Prifathro yn bersonol yn euog yn mynd a hi un cam rhy bell.

O droi’r achos ar ei ben felly. Pe tae yr hogyn wedi syrthio ar risiau adre gyda’i rieni neu ar risiau yn y dre tra gyda’i rieni a fyddai’r wladwriaeth yn erlyn a chael ei rieni yn euog o’i farwolaeth? Go-brin. Ac yna beth am achos enwog Maddy McAnn gafodd ei dwyn o’i gwely ym Mortiwgal yn gynt eleni tra oedd ei rhieni allan yn cael swper? Oni ddarganfyddant y cipiwr oni ddylai ei rhieni fod yn gyfrifol oherwydd nad oedden hwy yn cadw llygad drosti?

Fy nadl i yw fod rhaid i ni fod yn ofalus iawn wrth erlyn unigolion am farwolaethau damweiniol. Mae damweiniau yn digwydd dyna ffaith trist bywyd – os oes ‘bai’ ar rywyn fel y prifathro yna dylid gollwng y gair damwain o’n geirfa o bosib. Os rhoi bai ar rywun dylid rhoi bai ar sefydliad ond oni bai bod cysylltiad uniongyrchol gyda unigolyn (a doedd dim yn achos y Prifathro yma druan) ni ddylid erlid uniogolion yn enwedig athrawon. Dysgu plant yw eu gweith nhw chware teg nid bod yns wyddogion diogelwch.

Sori am y postiad tra difrifol yma. Gadewch eich sylwadau diddorol byddai clywed eich barn chi ar y pwnc.

Please follow and like us: