Mae’r theatr a’r ddrama yn gyfryngau pwerus tu hwnt ac o safbwynt Cristion a Christnogaeth mae’r theatr yn sicr a photensial i gyflwyno pobl o’r newydd i Iesu Grist y Gwaredwr. Fodd bynnag trist oedd gweld fod Aled Jones Williams, ac yntau wrth gwrs yn Ficer yn yr Eglwys yng Nghymru, yn defnyddio’r theatr i ymosod ar ein Gwaredwr yn hytrach na’i gyflwyno o’r newydd i genedl sydd wirioneddol angen clywed a deall y newyddion da. Yn y ddrama roedd Iesu, wrth gwrs, yn cael ei actio gan Ferch – nid oedd hynny yn fy nghynhyrfu rhyw lawer ond yn hytrach yr hyn wnaeth fy nigalonni rhyw damaid oedd fod Aled yn portreadu Iesu fel Duw llipa a phathetig. Mi oedd Iesu Grist, wrth gwrs, yn ostyngedig ond mae bod yn ostyngedig yn dra wahanol i fod yn llipa. Er enghraifft cymerwch Ghandi, roedd yn ŵr hynaws a gostyngedig ond doedd hynny ddim gyfystyr a bod yn llipa a phathetig. Cymaint mwy felly oedd yr Iesu, oedd mi oedd yn ostyngedig ond roedd yn ŵr a Duw cadarn a wnaeth y safiad mwyaf yn hanes. Mae drama Aled yn methu’n llwyr a phwyntio allan y gwahaniaeth yma rhwng gostyngeiddrwydd a lliprwydd a thrwy fethu a phwyntio allan y gwahaniaeth yma mae Aled yn ymosod yn ffiaidd ar gymeriad Iesu fy ngwaredwr a’m Duw.

Mae Aled wedi cwyno o’r blaen bod dim cymeriad gan Iesu’r Beibl ac oherwydd hynny Iesu yw cymeriad gwanaf ei ddrama. Wrth gwrs mewn drama pechod a pechodau’r cymeriadau sy’n creu’r cymeriadau, creu’r cyffro a chreu’r tensiynau; felly i Aled fel dramodydd mae delio a phortreadu cymeriad di-bechod fel Iesu yn siŵr o beri problemau sylweddol. Yn hynny o beth efallai mae’r peth gorau i Aled fyddai wedi canoli’r ddrama yn llwyr ar yr ymryson rhwng Caiaffas a Pontiws Peilat – wedi’r cyfan cefndirol oedd cymeriad Iesu ei hun yn y ddrama. Ond roedd rhaid i Aled fachu ar bob cyfle i ymosod a’r Gristnogaeth glasurol felly pa ffordd well na hynny o ddifrïo y gwaredwr ei hun pobl cyfle cai?

O roi ystyriaethau diwinyddol a’r ‘hw ha’ dadleuol i’r neilltu ac edrych ar y ddrama yn gwbl wrthrychol rwy’n parhau i gredu fod y ddrama yn un wan ac iddi sgript eclectig flêr. Rodd diffyg cynildeb difrifol gan Aled yn y sgript ac roedd y diffyg cynildeb yma yn golygu fod y dramodydd yn gwthio ei hun ar y llwyfan ac yn pregethu ei ragfarnau at y gynulleidfa yn hytrach na defnyddio’r sgript a’r ddrama i wneud hynny mewn ffordd gywrain a chynnil. Roedd llawer o regi yn y ddrama ac fe nododd cyfaill i mi, nad sy’n arddel Cristnogaeth gyda llaw, mae arwydd o sgript wan a rhwystredigaeth o dŷ’r dramodydd ydy gorfod troi at regi cymaint. Dwi ddim yn erbyn y defnydd o reg mewn llên, i ddweud y gwir dwi’n meddwl fod defnydd cynnil o reg mewn llen yn effeithiol dros ben i bortreadu’r gynnen a phechod sydd ynom ni gyd. Ond doedd dim cynildeb o gwbl yn nefnydd Aled o’r rheg ac oherwydd hynny roedd y defnydd o reg yn ddim byd mwy na dangos bod Aled yn Ficer rhwystredig sydd wedi a methu mynegi ei hun ac oherwydd hynny yn gorfod troi at reg yn yr un ffordd ag y mae plentyn bach yn gwaeddi a strancian pan nad yw’n cael ei ffordd ei hun.

Gan gofio mae gweinidog yr efengyl oedd awdur y ddrama rhaid holi’r cwestiwn a’i diben yr Eglwys a’i haelodau ydy cyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Crist yntau holi cwestiynau a dymchwel ei sylfaeni? Mae yna ddigon o bobl allan yna sy’n ymosod a’r Grist a’i waith ac mae’n drueni fod Gweinidog yr Efengyl o Borthmadog wedi cymryd ochr a hwy. Ond dydw i ddim yn gofidio rhyw lawer oblegid ganrifoedd yn ddiweddarach rydym ni’n parhau i werthfawrogi gweithiau llenyddol mawr Cristnogaeth glasurol y Piwritaniaid a’r Methodistiaid ond dwi’n amau a fydd unrhyw un wedi dim ond pum mlynedd yn parhau i gofio heb sôn am berfformio Iesu! gan Aled Jones Williams.

Maen debyg fod Aled Jones Williams bellach yn ferthyr ond does neb cweit yn siŵr dros be y’i merthyrwyd. Yr unig ateb hyd y gwela i i Aled, yn eironig ddigon, ydy troi at y gwaredwr y mae wedi dyrnu ei rwystredigaeth yn ei erbyn yn y ddrama hon. ‘Dewch ataf i bawb sy’n flinderog a llwythog’ meddai Iesu ac ar ôl gwylio Iesu! rwy’n amau fod Aled, yn fwy na neb, yn hen Ficer sydd angen troi at yr Iesu yn hytrach na’i ddifrïo pob cyfle posib.

Please follow and like us: