Dwi newydd ddychwelyd o Llanw, gŵyl Gristnogol Gymraeg, y peth agosaf sydd gennym yng Nghymru i Spring Harvest. Arweiniwyd un o’r seminarau gan Arfon Jones, yr arwr sy’n gweithio ar beibl.net, rhyw fath o fersiwn Cymraeg ar-lein o’r Youth Bible. Mae gan Arfon angerdd am y Beibl yn ei gyfanrwydd (yn amlwg), ond mae ar ei orau pan fo’n sôn am yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddysgu i ni am gyfiawnder; roeddwn i’n edrych ymlaen felly at ei seminar oedd yn trafod ‘Tuedd tua’r tlodion’. Dywedodd llawer o bethau heriol ond un peth oedd yn sefyll allan i mi oedd ei rybudd ein bod ni fel Cristnogion, gan gynnwys rhai efengylaidd, yn tueddu i fod yn ddetholus wrth ddarllen y rhannau hynny o’r Beibl sy’n trafod pethau yn ymwneud a chyfiawnder a’r tlawd. Er fod gwleidyddion yn cyfaddawdu ar y materion yma mae’r Beibl yn gwbl glir a di-gyfaddawd.

Dywedodd ein bod yn tueddu i or-ysbrydoli (over spiritualize) rhai adnodau o’r Beibl. Er enghraifft, rydym yn tueddu i honni bod Iesu yn sôn am dlodi ysbrydol pan mewn gwirionedd roedd e’n sôn am dlodi go iawn ayyb … Mewn geiriau eraill rydym ni’n tueddu i ddarllen y Beibl drwy lygaid ein ffordd o fyw a’n gwerthoedd gwleidyddol a chymdeithasol yn hytrach na gadael y Beibl i lywio ein ffordd o fyw a’n gwerthoedd gwleidyddol a chymdeithasol. 

Yn y tymor etholiadol sydd o’n blaen dwi’n meddwl fod her Arfon yn arbennig o bwysig. Fel Cristnogion rhaid i ni beidio gadael i’n gwleidyddiaeth reoli ein ffydd ond yn hytrach gadael ein ffydd i reoli ein gwleidyddiaeth. Dros yr wythnosau nesaf yn arwain at ddydd yr etholiad dwi’n gobeithio, os bydd amser yn caniatáu, trafod beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol.

Please follow and like us: