Ches i fy nychryn bore ma ar ôl darllen fod yna Eglwys yn Florida yn trefnu gŵyl International Burn a Koran Day er mwyn nodi atgof Medi’r unfed ar ddeg. Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Pastor Terry Jones a’i Eglwys, sydd ag enw tra eironig, The Dove World Outreach Center.

Yn ogystal â bod yn ffolineb llwyr a fydd yn cyfrannu i radicaleiddio Mwslemiaid ymhellach mae’r digwyddiad yma yn dangos penllanw ffwndamentaliaeth Gristnogol sydd yr un mor bell o ddysgeidiaeth ac efengyl Iesu Grist ag ydy ffwndamentaliaeth Mwslemiaid mewn gwirionedd.

Rwy’n falch fod arweinwyr Cristnogol eraill yn yr Unol Daleithiau wedi dod allan yn gryf a chondemnio bwriadau Pastor Terry Jones.

Mae’n bwysig cydnabod fod elfennau o fewn Islam sy’n beryglus iawn. Ond mae’n bwysig cydnabod hefyd fod yna bobl allan yna sy’n gwneud a dweud pethau yn enw Crist sydd yr un mor beryglus â dyma enghraifft lachar o hynny. Feiddia i awgrymu nad ydy Pastor Terry Jones yn adnabod yr un Gwaredwr ac Arglwydd a mi a’i fod yn hytrach yn grefyddwr diwylliannol o dras ffwndamentalaidd adain-dde? Gwnaf.

Please follow and like us: