Dwi heb flogio’n iawn ers misoedd ond dwi mynd i drio ail gydio ynddi’n ara deg. Fydda i ddim yn blogio’n aml am waith Caersalem Caernarfon oherwydd mae modd i chi sydd a diddordeb ddilyn hanes yr Eglwys gan gynnwys y podlediad ar wefan Caersalem ei hun. Hefyd mae tipyn o fy ngwaith yng Nghaersalem (mwy nag oeddwn yn disgwyl a dweud y gwir) yn waith bugeiliol ac yn amlwg dydy hi ddim yn briodol i mi flogio’n gyhoeddus am broblemau Mary Jên a salwch Tegryn Tomos. [enwau dychmygol yw rhain!]
Felly dwi am flogio rhywfaint heno am ffotograffiaeth, yn arbennig pwysigrwydd aperture isel. Amatur pur yn ffansio ei hun fel semi-pro efallai ydw i wrth drafod ffotograffiaeth, felly cymerwch y geiriau yma fel amatur yn siarad gyda amaturiaid. Mi fuesi’n araf iawn i ddeall pwysigrwydd aperture. Dyma esbonio rhywfaint ar y jargon i ddechrau:
Shutter speed: yr amser mae’r lens ar agor.
Aperture: faint o’r lens sydd ar agor.
Y berthynas rhwng y shutter speed ar aperture sy’n barnu sut mae eich lens a’ch camera yn dal y llun. Am dipyn wnes i ddim deall fod yr allwedd i lawer o luniau da, yn arbennig lluniau o bobl, i’w ganfod wrth chwarae gyda’r aperture. Y mwyaf mae’r lens ar agor y cyflymaf all y shutter speed fod ac rydym ni’n hoffi shutter speed cyflym yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd. Rhaid cofio hefyd: aperture isel = lens ar agor yn llydan, aperture uchel = ychydig o’r lens ar agor!
Nawr dyma oedd y breakthrough wrth i mi symud fy ffotograffiaeth i’r lefel nesaf – prynu lens gyda aperture isel. Roedd fy lens cyffredinol, er yn un reit dda i safon amatur, dim ond ac aperture f/3.5-4.5. Hynny yw ar y zoom lleiaf roedd yr aperture yn f/3.5 ac ar y mwyaf f/4.5. Felly doedd y lens ddim mewn gwirionedd yn medru agor ddigon i chi allu tynnu lluniau sydyn dan olau isel h.y. dan do heb fflash. Yn fy llyfrau i fflash = drwg. Fe wnes i felly fuddsoddi mewn lens oedd yn mynd lawr i f/1.4 oedd yn fy rhyddhau i dynnu lluniau cyflym dan olau isel.
Be wnes i brynu oedd y Canon EF 50mm f/1.4 USM. Mae’r lens yma yn wefreiddiol, dyma rhai lluniau dwi wedi ei dynnu ag e yn ddiweddar (cliciwch i weld yn fwy):
Mae’r lens yn costio oddeutu £400-500 (ond mae gan Jessops ddêl arno ar hyn o bryd ac mae nhw’n ei werthu am £299, bargen!). I lawer ohonoch chi mae hynny’n swnio’n astronomical gan fod eich camera efallai dim ond wedi costio ychydig yn fwy neu efallai yn llai hyd yn oed. Efallai y cew chi hyd i un ar ebay, ches i fy un i fan yno am £250. Ond credwch chi fi, mi fydd yn trawsnewid eich ffotograffiaeth. Man cychwyn lluniau da yw nid y camera ei hun, ond y lens. Ar ôl cael set da o lensys yna wedyn ystyriwch uwchraddio’r camera. Ond lensys da yw’r flaenoriaeth bob tro.
Dwi newydd brynu lens cyffredinol newydd hefyd sef y Sigma 28-70mm f2.8, hynny yw mae’n f/2.8 yr holl ffordd trwy’r zoom range, sy’n isel iawn am lens cyffredinol. Mae’r lens gwerth £600 yn newydd ond ches i un am £177 ar ebay. Mae ebay yn gyfaill da iawn i amaturiaid fel fi sydd ddim yn medru fforddio gwario cannoedd ar gannoedd ar lenses. Mae Canon yn gwneud un lens sy’n mynd lawr i f/1.2 sy’n costio £1,758!
Os y bydda i’n hapus gyda’r lens cyffredinol newydd yma y cam nesaf bydd ystyried uwchraddio’r camera ei hun er gyfer un sy’n medru gwneud ffilm. Mwy am hynny rhywbryd eto – ond am nawr, buddsoddwch mewn lensys newydd ac aperture isel bobl, fyddw chi ddim yn difaru.
Haia Rhys,
Sgwn i a allet ti dynnu dau lun o’r un gwrthrych o dan union yr un amgylchiadau, y naill gyda dy hen lens a llall gyda dy lens newydd, er mwyn i ni gael gweld y gwahaniaeth? Jyst rhywbeth syml yn y ty falle.
Iwan