J.E. Daniel a’r diffyg sylw iddo yn llyfr Richard Wyn Jones

Un beirniadaeth sydd gennyf o lyfr newydd Richard Wyn Jones ydy’r diffyg sylw i J.E. Daniel, sylwer fod fy meirniadaeth yn un reit bitw ac fy mod i ar y cyfan wedi fy mopio a’r gyfrol. Gan mod i wedi gwneud traethawd yn ddiweddar ar syniadaeth Daniel a bod Richard Wyn Jones ddim yn cyflwyno rhyw lawer am y gŵr dyma rannau rhai sylwadau amdano.

Ymunodd Daniel â’r Blaid Genedlaethol yn 1928 a daeth i chwarae rhan flaenllaw yn ei gweithgareddau o’r dechrau un – erbyn 1930 ef oedd is-Lywydd y Blaid. Er mai diwinydd oedd Daniel o ran ei waith beunyddiol nid oedd i’w genedlaetholdeb, ar y dechrau beth bynnag, rin arbennig Gristnogol fel y noda D. Densil Morgan:

“Os oedd ei ddwy weledigaeth, y diwinyddol a’r wleidyddol, weithiau’n gorgyffwrdd, roeddynt yn amlach na heb yn rhedeg ar wahân. Yn wahanol i Saunders Lewis, nid oedd goblygiadau pendant Gatholig, na rhai arbennig grefyddol ychwaith, i genedlaetholdeb Daniel ar y cychwyn.”

Maes o law profodd hyn yn broblematig wrth iddo ddod dan feirniadaeth gwŷr dylanwadol a chraff megis W. J. Gruffydd. I Gruffydd yr oedd Daniel a llawer o bleidiwr eraill, ar gychwyn yr ail ryfel byd, wedi cael eu blaenoriaethau yn gwbl anghywir. Dywedodd Daniel mai dadl Gruffydd oedd ‘fod rhyddfrydigrwydd a dyngarwch yn bethau pwysicach na hawl cenedl i’w rhyddid.’ Oherwydd i Daniel ddyrchafu hawl y genedl, ail-ymosododd Gruffydd drwy honni fod Daniel yn hyrwyddo hawl cenedl uwchben rhyddfrydigrwydd a dyngarwch, ac felly’n rhannu’r un weledigaeth a Ffasgwyr Ewrop. Fel y noda D. Densil Morgan drachefn; ‘o ddarllen llithoedd mynych Daniel ar genedlaetholdeb a chrefydd… nid oes mymryn o dystiolaeth iddo gael ei ddenu at ideoleg ffasgaeth.’ Fe orfodwyd Daniel felly o ganlyniad i’r beirniadu fu arno ef a’r Blaid o dŷ Protestaniaid ymneilltuol i feddwl allan ei genedlaetholdeb o’r newydd a hynny o safbwynt arbennig Gristnogol-Galfinaidd.

Cyhoeddwyd ffrwyth ei fyfyrdod mwn perthynas a’i ddilema mewn ysgrif yn dwyn y teitl Gwaed y Teulu yn 1944. Yn arwyddocaol fe gychwynna’r ysgrif gydag adnod sef ‘Efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion’ (Actau xvii. 26a). Gweithreda’r adnod fel meingefn i’r ysgrif ar ei hyd ac yn safon i’r gwerthoedd o’i mewn. Noda Daniel ar ben yr ysgrif fod y syniad o ‘hawl ddiamod y genedl hunanetholedig’ wedi dod yn un o brif heresïau Ewrop. Mynnai Daniel fod y ffenomenon yma – ag Almaen y Natsïaid fel enghraifft berffaith – yn torri y gorchymyn cyntaf a’r pwysicaf, ‘Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.’ Noda Daniel fod yn rhaid i bawb wrth sôn am ei ffyddlondeb at ei genedl ‘ddangos yn eglur pa fodd yr ymgeidw rhag yr eilunaddoliaeth hon. Rhaid yw iddo ddangos lle’r genedl mewn trefn Gristnogol; rhaid iddo ddangos terfynau ei hawl.’ Esbonia Daniel nad yw cyfyngu ar hawliau cenedl gyfystyr â gwadu iddi hawliau o gwbl. Yn y fan yma y mae’n amlwg ei fod yn feirniadol o’r iwtopwyr cymdeithasol wrth ddweud, ‘rhyfedd mor barod ydynt, yn enw Cristnogaeth, i warafun i’r genedl yr hyn a gydnabuont i’r dosbarth, heb sylwi bod ‘y ddynolryw’ os yw’n ehangach na’r genedl, yn llawer mwy felly na’r dosbarth.’

Pwysleisia Daniel mai am genhedloedd y sonia’r Apostol ac ‘nid am unigolion nac am wladwriaethau.’ ‘Nid cyfres o unigolion na chwaith sefydliadau a greodd Duw’ meddai Daniel ‘ond cenhedloedd.’ Person cymdeithasol yw dyn o’i hanfod fel y’i darlinir yn y Beibl yn ôl Daniel ac un o’r cymdeithasau hynny y mae Duw wedi ei ddarparu i ddyn yw’r genedl. Y mae’r genedl, medd Daniel, ‘fel y teulu y mae’n ehangiad ohono, yn rhan o ffrâm ddwyfol-ordeiniedig bywyd dyn.’ Amrywiaeth mewn undod yw’r egwyddor fawr i Daniel, ‘nid ewyllys Duw’ meddai ‘oedd bod dynolryw yn unffurf a diamrywiaeth.’ Fodd bynnag pwysleisia Daniel fod cydnabod yr undod, hynny yw oll dan drefn ordeiniedig Duw, yr un mor bwysig â chydnabod yr amrywiaeth. ‘Y mae’r unoliaeth na cheir mohoni ond ar draul amrywiaeth’ meddai ‘yn gymaint pechod yn erbyn Duw â’r amrywiaeth na fyn gydnabod undod.’ Mae dehongliad Daniel o hanes Tŵr Babel yn eithriadol bwysig. I Daniel yn Genesis unarddeg ceir darlun o ddyn yn ceisio cadw ei ‘hundod moel’ ac yn ei bechadurusrwydd hunan-ganolog ‘yn troi yn erbyn Duw gan wneuthur eilun ohoni ei hun.’ I Daniel roedd gweithred Duw o ddymchwel Tŵr Babel yn ymgais ganddo i ddwyn y ‘ddynolryw yn ôl at lwybr ei fwriad Ef.’ Yn ragluniaethol drwy hanes fe gred Daniel fod Duw trwy ei sofraniaeth yn ail-adrodd y weithred hon, yr enghraifft a rydd yw sut y bu i ‘unoliaeth bwdr’ Rufain ddymchwel a rhoi ffordd i ‘amrywiaeth gyfoethog’ yr Oesau Canol.

Gyda Daniel yr hyn a’i gwnaeth y gymaint o genedlaetholwr oedd ei allu i roi Duw rhagor na’r genedl yn y canol a thrwy weld y genedl fel rhan o drefn ei Dduw roedd ganddo sel yn ei galon. Er bod Daniel wedi bod yn hirymarhous yn cysylltu ei ddehongliad o’r Duw pen-arglwyddiaethol gyda’i genedlaetholdeb tybiaf mai y reson d’etre yma, yn anad dim byd arall, a’i ysbardunodd yn y diwedd i gynnig dehongliad Cristnogol llawn a dwfn i’r cwestiwn o Gymru a chenedlaetholdeb. Afriad dweud mai gyda Daniel yr oedd cydymdeimlad R. Tudur Jones. Roedd ei lwyddiant, neu ddiffyg, gyda Saunders Lewis i werthu’r rhaglen wleidyddol honno i etholwyr Cymru yn stori gwbl wahanol wrth gwrs!

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.