Neithiwr fues i a Menna yn siarad yng nghwrdd dosbarth y Methodistiaid Calfinaidd yn Jerwsalem Pen-y-groes, Sir Gâr. Mynd yna wnaethom ni i sôn am ein ymweliad a Kyiv, Yr Wcráin nol yn yr Hydref ac i geisio codi calon ac ysbrydoli’r Cristnogion yma yng Nghymru.
Pob tro fydda i’n ymweld a’r ardal fydda i’n mynd i deimlo’n reit emosiynol, roedd heno ‘ma yn ddim gwahanol. Yn yr ardal mae tipyn o fy ngwreiddiau i; Tad-cu yn dod o Gorslas, Mam-gu yn dod o Rhydaman ac yn Rhydaman hefyd roedd Eglwys olaf fy Nhad-cu ac yna o flaen y capel drws nesaf i Nantlais Williams mae wedi ei gladdu. Wrth gwrs, yn yr un Eglwys roedd Nantlais yn gweinidogaethu ym merw’r Diwygiad yn 1904-05.
Roedd yna un gwr heno, sef David Hughes o Gross-hands, yn adnabod fy hen Fam-gu! Roedd e’n gweithio hefyd gyda fy hen Ewythr Alun, brawd Tad-cu, yn y Pwll Glo. Roedd hanesyn arbennig iawn gyda fe am fy hen Fam-gu, Ester. Roedd Ester wedi colli ei gwr, fy hen Dad-cu, yn ifanc mewn damwain yn y pwll glo. Roedd David Hughes yn dweud wrtha i neithiwr fod coffa dda amdani a pharch enfawr tuag ati yn yr Eglwys yng Nghross-hands slawer dydd. Roedd yn cofio ei bod hi’n ddynes Dduwiol iawn ac roedd e’n ei chofio hi ar ei gliniau, yn llythrennol, yn gweddïo ac yn siarad gyda’i Gwaredwr yn y Capel.
Fe fu’r Ysbryd Glan ar waith mewn ffordd rhyfedd a phwerus iawn yn yr ardal yn y gorffennol. Ro’ ni’n teimlo mod i wedi cael rhyw flas o’r pŵer hwnnw trwy fod yng nghwmni’r hen frodyr Duwiol ym Mhen-y-groes heno; nid pobl wedi darllen yr hanes fel fi oedden nhw ond brodyr sy’n cofio ac a brofodd y fendith a fu yn ar ardal un tro.
Blogiad hyfryd iawn, Rhys. Mae’n wych clywed hanesion gan bobl sydd wedi profi’r tân diwygiadol – mae’n gwneud hanes yn llawer mwy real, yn dyw e.