Yn anffodus fydda i ddim yn Merthyr nos fory felly fydda i’n methu un o berfformiadau prin Jess. Dwi wedi fy nghyfareddu gyda Jess ers i mi eu gweld nhw ar y teledu ar ôl Gŵyl y Faenol nol yn 2001 dwi’n meddwl. Ro ni rhy ifanc i’w gwerthfawrogi tro cynta rownd. Ond dwi wedi llwyddo i’w dal nhw’n fyw ddwy-waith, unwaith yng Ngwyl Mawr Bont ddwy flynedd yn ôl ac unwaith eto tua 9 mis yn ôl yn Nhregaron. Roedd y perfformiadau, yn enwedig yr un ym Mhontrhydfendigaid yn wefreiddiol.

Ta beth – dwi wedi ffeindio p’nawma fod dau o’r caneuon wnaetho nhw berfformio yng Ngwyl y Faenol fyny ar YouTube. Mwynhewch.

Please follow and like us: