Mae’r Anghydffurfiaeth Gymreig… wedi darfod amdani fel grym cymdeithasol… nid yr Eglwys sydd wedi cymryd ei lle… na Seciwlariaeth chwaith… diflannodd unrhyw ddisgwrs gyhoeddus, gyffredinol ynglyn â gwerthoedd ein cymdeithas gan adael fawr ddim yn ei lle y tu hwnt i’r gwerthoedd hynny sydd ymhlyg ym mhrynwriaeth rhemp cyfalafiaeth gyfoes. Yn y cyd-destun yma y bydd arweinwyr gwleidyddol y dyfodol yn cael eu magu ac yn prifio. Af i ddim i broffwydo gwae, nac ychwaith i ramantu ynglan â’r gorffennol yn ormodol, ond rhaid cyfaddef bod y rhagolygon yn bur llwm.

Dyna’r darlun a bortreadwyd gan Richard Wyn Jones ar dudalenau’r cylchgrawn Barn rai misoedd yn ol. Mae’r dweud yn drawiadol ac yn boenus o wir am Gymru heddiw. Yr hyn sy’n gwneud yr ysgrif yn arbennig o bwerus a dadlenol yw’r ffaith fod Richard Wyn Jones yn ysgrifennu o safbwynt seciwlar. Dyma ni’n gweld seciwlariaeth yn cyfaddef iddo ef ei hun nad yw’n gorff cyflawn syniadaethol. Wrth gwrs, fel Cristnogion sy’n credu fod y datguddiad cyflawn yn y gair roeddem ni’n gwybod hynny’n barod – dim ond yng Nghristnogaeth y ceir corff cyflawn syniadaethol i’r enaid ac i’r byd hwn.

Oherwydd ein bod ni’n credu mae ni sydd a’r coff cyflawn syniadaethol i’r byd hwn oni ddylai fod yn ddyletswydd i Gristnogion yng Nghymru unwaith yn rhagor lenwi’r gwagle argyfyngol yma mae Richard Wyn Jones yn tynnu sylw ato? Hoffwn droi at un ymateb posib y gallai Eglwys Crist yng Nghymru droi ato yn wyneb yr angen am ddylanwad iachusol gymdeithasol Gristnogol yn y Gymru seciwlar. Yn anisgwyl fe ddaw’r ymateb posib o’r UDA. Nid o gyfeiriad y Dde-Gristnogol sydd wedi plethu’r ffydd Gristnogol a gwladwriaeth mewn modd tu hwnt o beryglus a gwrthun i’n traddodiad anghydffurfiol ni fel Cymru sydd wedi pwysleisio llinell bendant rhwng yr Eglwys a Gwladwriaeth. Nid o’r chwith-Gristnogol ryddfrydol chwaith ond y drydedd ffordd sy’n cael ei bledio gan wr or enw Jim Wallis.

Nid dyma’r tro cyntaf i ddarllenwyr y Cylchgrawn glywed am Wallis oherwydd bron i gwarter canrif yn ol fe adolygwyd un o’i lyfrau gan D. Densil Morgan. Nol yn 1983 cyn i mi gael fy ngeni nododd Densil Morgan fod Wallis yn profi ‘…nad gan y rhyddfrydwyr diwinyddol mae’r hawl ar yr enw radicaliaid’ ac fod syniadau Wallis ‘…oll yn feibl-ganolog, mor newydd o feibl-ganolog nes iddo weld y pethau sy wedi bod dan ein trwynau erioed a ninnau, oherwydd ein rhagfarnau, wedi methu eu gweld’. Er bod Wallis o’r farn y dylai Cristnogion Efengylaidd ymhel a gwleidyddiaeth mae’n nodi nad oes rhaid cyfaddawdu ar byd i wneud hynny. Yn ei lyfr diweddaraf ‘God’s Politics: Why The Right Get’s It Worng And The Left Don’t Get It’ mae’n pledio gwleidydda Gristnogol amgen. Fe ddefnyddia Wallis ymadroddion fel ‘Don’t go left or right, go deeper’ a ‘I like the term ‘prophetic politics’; that’s more biblical. Prophetic politics has the capacity to challenge both left and right’.

Mae system syniadaethol Wallis yn cychwyn gyda throedigaeth y Cristion. Cred fod y cyfnewidiad ‘eithafol’ hwn yn cyffwrdd pob agwedd o fywyd dyn. Nid yw’r syniad yma yn un newydd i bobl Efengylaidd; wedi’r cyfan onid y Doctor ei hun ddywedodd mae Rhufeiniaid 12:2 oedd adnod bwysicaf yr ysgrythur? Cred Wallis fod y ‘trawsffurfio’ y cyfeiria’r Apostol Paul ato yn yr adnod hwn yn cyfeirio at, ie yr enaid ar un llaw, ond fod y person cyfan wedi ei achub nid dim ond ei enaid. Nid trawsffurfiad anhanesyddol yw hwn ond trawsffurfiad person sydd dal i fodoli yn y byd; felly rhaid i’r Cristion gyflwyno yr efengyl ysbrydol ar un llaw ond hefyd gyflwyno teyrnas Dduw i’r byd mewn modd gwrthryfelgar bron a bod – troi y status quo, systemau gwleidyddol a moeseg wleidyddol y byd hwn, ben i waered.

Fel y dywedodd R. Tudur Jones: ‘Mewn trefn ddemocrataidd mae pawb yn wleidyddion’; does dim dianc o’ch cyfrifoldeb felly. Wrth edrych ar gyflwr ysbrydol, gwleidyddol a diwyllianol Cymru maen ddewis “Naill-ai/Neu” i’r Cristion – cydnabod Iesu Grist yn Arglwydd ar bob sffer neu chyfranogi i un o herisiau mwyaf yr Eglwys yn ol Bobi Jones – Pietistiaeth. Y meddylfryd peryglus hwnw sydd fel anadl ddrwg, medrwch ei arogli ar eraill ond fi, na byth! Ailystyria gyfaill.

Mewn cyfweliad gyda Jim Wallis sydd i’w canfod ar wefan Tearfund mae’n delfrydu am Efengylwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Willberforce a Finney ymysg eraill. ‘They got it!’ meddai Wallis gan esbonio ‘They were revivalists and reformers, evangelists and abolitionists. They connected faith and justice’. Yma yng Nghymru mae digon o Gristnogion fu’n arweinwyr gwleidyddol neu ddiwillianol eu cyfnod yn sefyll allan. Gruffudd Jones a’i bwyslais ar addysgu’r werin i ddarllen, David Rees ‘Y Cynhyrfwr’ fu’n un o gefnogwyr brwd y Siartwyr, Hiraethog a’i lambastio ar anghyfiawnderau cymdeithasol ei oes ac yn fwy diweddar mae R. Tudur Jones yn arweinydd Cristnogol sylweddol na gyfyngodd ei waith (diolch i ras a rhagluniaeth Duw) i’r sffer eglwysig yn unig.

Beth a wnawn felly yn wyneb y realiti y tynwyd sylw ato gan Richard Wyn Jones. Rwyf i o’r farn, fel Wallis, fod llawer gennym i ddysgu oddi wrth unigolion fel Wilberforce ac R. Tudur Jones a welodd y cysylltiad positif rhwng tystiolaethu a cheisio dylanwad gras Iesu i’r byd yn gyffredinol. Credaf fod yn rhaid i ni ddewis ein brwydrau hefyd, dros y deuddeg mis diwethaf yr unig bryd y clywyd ‘llais’ efengylaidd ar y cyfryngau yng Nghymru oedd y cwyno am lwyfannu Opera Jerry Springer yng Nghaerdydd. Beth am lais Cristnogol ar faterion fel tlodi, rhyfel ac addysg? Rhaid mynd un cam ym mhellach, fel y dywed Wallis; ‘You can’t just keep pulling bodies out of the river; you’ve got to send somebody upstream to see what or who is throwing them in’.

Yn y Gymru seciwlar sydd ohoni rhaid plethu efengylu gyda dylanwad cymdeithasol Cristnogol yng Nghymru. Wedi i ni fel Cristnogion ddeall y cysylltiad rhwng yr ysbrydol a chyfianwder yr oll sydd i wneud yw gweddio am dywalltiad yr ysbryd ar Gymru unwaith yn rhagor.

Please follow and like us: