Ges i afael ar gopi o Final Cut rhai wythnosau yn ôl oherwydd mod i am saethu, ac felly golygu, gyda mwy nag un camera ar gyfer y fideos syml ro ni’n gwneud i wefan abertawe.info. Neithiwr yn nwfn distawrwydd Neuadd John Morris Jones gyda’r myfyrwyr i gyd wedi mynd adre es i mas i botsian gyda’r camera ac yna postian ymhellach ar Final Cut. Mae neuaddau preswyl Prifysgol yn lefydd brawychus iawn pan fyddw chi yn byw ynddyn nhw ar ben eich hun fel dwi wedi bod yn gwneud ers i’r tymor Coleg orffen. Gobeithio fod y ffilm fach ysgafn yma yn cydio rhywfaint ar yr awyrgylch…

Lost / JMJ Skit from Rhys Llwyd on Vimeo.

Please follow and like us: