Dwi wedi siomi’n arw gydag ymosodiad agored Jonathan Edwards AS, Plaid Cymru ar waith Christians Against Poverty. Mae ein Eglwys ni yma yng Nghaernarfon yn barod iawn i gefnogi gwaith CAP ac ar rai achlysuron dwi wedi cynghori pobl i gysylltu gyda CAP. Mae’n wir fod CAP wedi gorfod gadael Advice UK llynedd oherwydd eu bod nhw’n cynnig gweddïo gyda chleientiaid. Ond mae’n bwysig iawn sylwi mae CYNNIG gweddïo gyda chleientiaid maen nhw’n gwneud nid gorfodi na mynnu. Shock horror, elusen Gristnogol yn cynnig gweddïo. Beth nesaf?
Dywedodd Jonathan y canlynol:
“As the former head of policy for Citizens Advice I know that an integral part of debt counselling is that advice is impartial and unconditional. It is therefore worrying to me that an organisation which has had to leave the Advice UK umbrella will be given taxpayers’ money for activities I believe should be delivered by specialist advisors with absolutely no strings attached.”
Gallaf i sicrhau fod gwasanaethau CAP yn ein hardal ni yn gwbl ddiduedd a heb unrhyw linynnau. Mae Eglwysi a Christnogion yr ardal yn barod i roi’r gwasanaeth i bawb o ba bynnag gefndir a heb ddisgwyl unrhywbeth yn ôl a hynny fel ffordd ymarferol i ddangos cariad Crist. Mae cyhuddiad Jonathan hefyd fod gwaith CAP ddim yn cael ei gymryd allan gan arbenigwyr yn y meysydd yn gwbl anghywir hefyd. Mae gwaith CAP yn cael ei wneud gan ymgynghorwyr ariannol, cyfrifwyr, cyfreithwyr a chwnselwyr sydd yn gweithio’n broffesiynol yn eu meysydd a llawer ohonynt yn rhoi eu hamser o’u gwirfodd ar ben oriau gwaith arferol i weithio i CAP.
Dwi ddim am ddweud dim mwy am y sefyllfa ehangach gyda’r Eglwys dan sylw yng Nghaerfyrddin, dwi ddim yn gwybod digon amdani i basio barn naill ffordd. Ond dwi wedi siomi’n aruthrol gydag ymosodiad cwbl anheg Jonathan ar waith yr elusen Gristnogol yma. Byddai Plaid Cymru ddim ble y mae hi heddiw heb gefnogaeth Eglwysi Cristnogol trwy ei hanes, mae’n bwysig i Jonathan gofio hynny cyn bwrw sen ar dystiolaeth Gristnogol a mynnu fod hi’n amhriodol i ni wneud dim heblaw am eistedd yn dawel yn ein Capeli allan o’r ffordd.