JWHeddiw mae Justin Welby yn cael ei sefydlu’n swyddogol fel Archesgob Caergaint. Dydw i ddim yn cytuno gyda’r syniad o eglwys wladol (hynny yw eglwys sy’n rhan o’r wladwriaeth), yn hytrach rwy’n credu mai’r model Beiblaidd yw un lle mae’r eglwys a’r wladwriaeth ar wahân. Dydw i ddim yn cytuno chwaith gydag eglwysi hierarchaidd fel yr eglwys Anglicanaidd. Dwi’n credu y dylai sofraniaeth pob eglwys fod yn lleol ac y dylai’r eglwys ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol fod yn undeb gwirfoddol ac nid yn unffurfiaeth orfodol. Unwaith eto dwi’n credu mai dyma’r model sydd i’w weld yn y Beibl – roedd yr eglwys yn Antioch yn rhydd i roi ei stamp ei hun ar bethau a ddim yn gorfod bod yn garbon copy o’r eglwys yn Jerwsalem.

Wedi dweud hyn rydw i’n gyffrous iawn am benodiad Justin Welby fel Archesgob newydd Caergaint. Mae’n dod o gefndir breintiedig ac fe’i haddysgwyd yn Eton fel David Cameron a George Osborne. Yna aeth ymlaen i gael gyrfa lewyrchus fel Cyfarwyddwr yn y diwydiant Olew. Mewn termau bydol roedd ganddo’r cyfan. Fe aeth Cameron ac Osborne ymlaen i ddefnyddio eu safle a’u cefndir breintiedig i gynnal y statws quo ac i gadw’r cyfoethog yn gyfoethog a chadw’r tlawd yn dlawd. Ond camodd Welby allan o’r cylch, rhoi’r gorau i’w swydd lewyrchus yn y diwydiant Olew a mynd yn Offeiriad. Ac yna wythnos yma roedd e’n arwain y gad wrth feirniadu polisïau Cameron ac Osborne oedd yn galed ar y tlawd.

O’r hyn rwy’n deall mae ei ddiwinyddiaeth yn efengylaidd heb fod yn ffwndamentalaidd sydd i’w groesawu. Mae’n ymddangos felly ar yr olwg gyntaf ei fod yn geidwadol ar hanfodion y ffydd – pwy yw Iesu – beth wnaeth Iesu drosom – beth yw Cristion ayyb… ond yn radical ei agwedd at ymwneud y Cristion a chymdeithas – gwarchod y tlawd – beirniadu llywodraethau anghyfiawn ayyb… Mewn gair mae’n Archesgob sy’n ticio pob bocs gen i!

Bydda i’n gweddïo na fydd y “sefydliad” eglwysig yn ei newid a’i dymheru ac y bydd yn darganfod dewrder a hyder gan Dduw i lynu’n ffyddlon at Iesu ac arwain yn deg a gostyngedig.

Please follow and like us: