Dwi newydd ddychwelyd o Kyiv, Yr Iwcrain ac dy ni wedi gweld pethau mawr. Mae diwygiad grymus ar droed yna. O ddiddordeb penodol i ninnau sydd a diddordeb mewn diwinyddiaeth gyhoeddus oedd gweld fod yr Eglwysi lle mae’r fendith ar waith yn rai sy’n frwd iawn ac yn flaengar iawn yn ymwneud a gwaith cymdeithasol a gwleidyddol y ddinas a’r Wlad. Roedd yn ddifyr clywed fod Pastor Anatoli, cynrhychiolydd Dwyrain Ewrop i’r Gynghrair Efengylaidd yn un o brif arweinwyr y Chwyldro Oren yn 2004 – maen weinidog ar Eglwys Fedyddiedig yn y ddinas, roedd yn fraint ei gyfarfod.
Ar un llaw roedd y gymhariaethau rhwng Yr Iwcrain a Chymru’n gryf – y naill yn camu allan o gysgod Imperialaeth a’r ddau yn ceisio adfer eu hiaith. Difyr iawn oedd gweld yr Eglwysi yn Kyiv yn gweithredu fel rhyw fath o wladwriaeth les yn wyneb methiant y llywodraeth i ddarparu gwasanaethau digonol o’r fath. Tybio oeddw ni fod yr Eglwysi yng Nghymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yn chwarae rôl debyg ym merw ein diwygiadau ni.
Roedd pob eglwys allan yna yn ‘mega-churches’, ond nid yn y ffordd Americanaidd fewnblyg oblegid roedd eglwysi enfawr ym mhob ardal o’r ddinas a phob un a’i chenhadaeth flaengar a’r cyfan yn genuine ys dywed y Sais. Tra oeddem ni yna roedd un o’r eglwysi yn cynnal cyfarfodydd yn un o’r trefi cyfagos ac fe ddaeth dros 2,000 i’r bywyd, mae achosion a hanesion tebyg yn bethau cyffredin. Dwi’n cofio Mamgu yn dweud am bobl Bethany Rhydaman pan oedd hi’n ferch fach yna yn y 30au a’r 40au fod yr hen do wedi “gweld pethau mawr” yn 04-05 a dwi’n teimlo fel mod i wedi “gweld pethau mawr” yn Kyiv wythnos yma ac yn awchu o’r newydd i weld tân yng Nghymru eto!
Ond wrth gymharu Yr Iwcrain heddiw gyda Chymru’r diwygiadau a fu mae’r gymhariaeth rhyngom ni heddiw yn dor-calonus. Roedd gweld bendith a diwygiad ar droed, gweld cenedl yn dyrchafu enw’r Arglwydd yn gwneud i mi sylwi o’r newydd dyfnder y tywyllwch ysbrydol sydd yng Nghymru heddiw. Yn faterol mae Cymru yn gyfoethocach lawer na Kyiv ond yn y pethau sydd wir yn cyfri mae gan Kyiv drysor a chyfoeth sylweddol fwy na Chymru. Mi fuasw ni’n aberthu ein cyfoeth materol ni i gael y tamaid lleiaf o’r fendith a welwyd yn Kyiv yn ein eglwys ni yma yng Nghymru.
Dros y dyddiau nesaf byddaf yn blogio a rhannu fideo’s am elfennau penodol o’r daith o gyfarfod rhai o’r arweinwyr Eglwysig blaenllaw i weld berw cenhadaeth i Buteiniaid y ddinas.