Dwi wedi bod isho neud Lasagne gyda pasta fres a heb ddefnyddio’r potiau afiach o sawsys ers tro. Felly es amdani amser cinio.
1. Ffrio’r mins bîf a rhoi sbigoglys i ferwi tan fod y cyfan yn mynd yn llypa
2. Gwasgu’r dŵr i gyd allan o’r sbigoglys a’i adael i oeri ac ychwanegu tipyn go lew o domato pure at y cig ac ychydig o fîf stoc. Ar ôl ychydig yn fwy cymysgu’r sbigoglys mewn hefyd.
3. Yn y pot coginio rhoi haen o besto gwyrdd, yna haen cyntaf y pasta, haen arall o besto gwyrdd ac yna haen cyntaf y cig yna blobs o mascarpone a sbrincl go lew o parmesan.
3. Layer arall o basta, cig ayyb…
4. Ail adrodd tan fod y pot yn llawn a sbrincl go lew o barmesan, pesto ac olew yr olewydd ar yr haen dop.
5. Ffwrn am 20 munud ar 180 celsiws.*
6. Iym!
* roedd fy un i wedi gorwneud ychydig ar y top felly bosib fod angen gwres is neu llai o amser.