Mae amser yn hedfan ac mae barn gwleidyddion yn newid ond mae egwyddorion yn sefyll. Roedd hi’n wybodus i dipyn o bawb erbyn y penwythnos a fu mae dyddiad cyhoeddi’r LCO iaith fyddai Ionawr 26ain ond maen debyg i Betsan Powys a Vaughan Roderick ddarganfod heddiw y bydd y dyddiad yn cael ei wthio ymlaen ym mhellach fyth. Maen hysbys na fydd sgôp yr LCO yn ddigon eang i gyflwyno deddf fydd yn rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg ym mhob sffêr o fywyd cyhoeddus Cymru felly maen ddychryn meddwl fod y gweision sifil yn Whitehall wrthi yn ceisio ei wanhau ymhellach fyth ar hyn o bryd.
Heddiw ma fe ddois i ar draws MP3 o araith a draddodwyd gan Adam Price mewn rali gan y Gymdeithas nôl yn Rhagfyr 2004. Cewch chi lawrlwytho’r araith gyfan fan YMA (os yw’r gwasanaeth i lawr triwch eto nes mlaen), ond y cymal oedd yn sefyll allan i mi oedd pwyslais Adam Price fod yn rhaid i Ddeddf Iaith Newydd gynnwys y sector breifat. Dyma ddywedodd Adam:
Mae’r rhan fwyaf o’n pobol yn gweithio yn y sector breifat. Mae’r rhan fwyaf o’n gwasanaethu’n cael eu darparu gan y sector breifat. Felly mae’r sector breifat yn rhan canolog o’n bywydau i gyd a dyna pam fod Deddf Iaith Newydd yn hollol allweddol.
Roedd Adam, wrth gwrs, yn llygad ei le. Ofer fydd unrhyw LCO na fydd yn rhoi hawl i Fae Caerdydd gyflwyno deddf fydd yn rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg yn y sector breifat gan fod mwyafrif llethol o’n bywydau yn cael ei fyw yn y sector breifat bellach. Yr her sy’n wynebu Adam a gweddill arweinyddiaeth Plaid Cymru wrth i’r LCO gael ei gyhoeddi nawr yw iddynt beidio a gwyro. Roedd Adam a gweddill arweinyddiaeth y Blaid yn bendant fod angen deddf fyddai’n cwmpasu’r sector breifat yn 2004 a fydda nhw’n fodlon codi stŵr a sefyll fyny i’r Blaid Lafur a’r gweision sifil yn 2009 ar y mater neu ydyn nhw wedi cael eu prynu?
Dywedodd Rhodri Morgan yn 1993 pan oedd y Ddeddf Iaith diwethaf yn mynd drwy San Steffan:
The Government calls this a Welsh Language Bill, but it would be better described as a Welsh Language Quango Bill. What one could call a Quango for the lingo …… We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language messure when we are in Government.
Wedi i Blaid Lafur gyraedd y Llywodraeth doedd dim diddordeb ganddyn nhw gael deddf gryfach. Gweniaith a rhethreg gwrthblaid a dim byd mwy oedd y dyfyniad uchod gan Rhodri Morgan yn 1993. Dwi ddim yn barod eto i sôn am arweinyddiaeth y Blaid fel sel-outs tebyg i Rhodri Morgan a’r Blaid Lafur ond os y byddan nhw yn ddywedwst ar y mater yma pan ddaw’r LCO yn gyhoeddus yna mi fydd hygrededd Plaid Cymru yn cael ei siglo’n sylweddol. Dyma yw’r her i Blaid Cymru dros yr wythnosau nesaf – rhaid gwneud safiad ar y mater ac nid troi at spin wrth lapio’r LCO gwan mewn gwlan cotwm.