Dwi’n falch iawn fod Leanne Wood wedi curo heddiw. Er mod i wedi ei chefnogi hi doeddwn i ddim yn siŵr wir a oedd aelodau Plaid Cymru yn barod am arweiniad rhywun fyddai wir yn siglo pethau.
Ches i’r fraint o redeg gwefan ac ymgyrchoedd ebost ymgyrch Leanne, falle, os caf amser, fe wna i flogio am y broses honno, a’r ystadegau ac ati dros y dyddiau nesaf.
Dwi’n meddwl fod y ffilm isod gan Menna yn crynhoi yn dda pam mod i wedi penderfynnu cefnogi Leanne:
Er mod i’n falch iawn i gefnogi Leanne a’i hymgyrch ar lefel bersonnol, does gen i ddim bwriad ymrwymo yn awr i fod yn arbennig o weithgar gyda’r Blaid a hynny oherwydd mod i’n parhau i gredu mae tu allan i wleidyddiaeth pleidiol mae’r lle gorau a mwyaf priodol i arweinwyr Eglwysig fyw a bod a cheisio dylanwadu. Ond am y tro does gen i ddim cywilydd bod yn aelod o’r Blaid o leiaf.
oherwydd mod i’n parhau i gredu mai tu allan i wleidyddiaeth bleidiol mae’r lle gorau a mwyaf priodol i arweinwyr Eglwysig fyw a bod a cheisio dylanwadu
Ymhelaetha!
Pan oeddwn yn dechrau ymddiddori mewn gwleidyddiaeth roedd Plaid Cymru yn drewi o weinidogion!
Mae gan Gristionogaeth Efengylaidd Gymreig traddodiad radicalaidd! Un o’r pethau sydd yn peri gofid imi fel Cristion yw bod Cristionogaeth yn cael ei gysylltu ag eithafiaeth y dde gwirion, yn arbennig gan fewnfudwyr “Cristionogol” i Gymru,.
Oni ddylem ni, Cristionogion traddodiadol Cymreig, mynnu bod ein hagwedd ni yn un amgen, os nad gwell, i’r Gristionogaeth eithafol Americanaidd sy’n cael gormod o droedle yng Nghymru gan fewnfudwyr o Loegr? A mynegi’r gwahaniaeth trwy ymrwymiad i’r achos cenedlaethol?
Alwyn, sylwer mae dweud oeddwn i mod i am aros allan o “wleidyddiaeth pleidiol” nid aros allan o wleidyddiaeth yn gyffredinol. Mae yna wahaniaeth pwysig rhwng y ddeubeth.
Pan oedd Plaid Cymru’n blaid yr ymylon, yn fath o fudiad protest amgen roedd hi’n naturiol o Weinidogion ymneulltuol fod yn rhan ohoni, ac yn wir ei harwain. Ond mae Plaid Cymru heddiw yn dra wahanol i Blaid Cymru Pennar Davies a Tudur Jones yn tydi. Dwi ddim yn argyhoeddedig y byddai’r hen arweinwyr ymneulltuol yr un mor frwd dros y Blaid heddiw ag yr oeddent hanner canrif yn ôl a hynny am sawl rheswm. Gan fod Plaid Cymru bellach yn blaid (a fu’n) lywodraethol cyfyd y cwestiwn pwysig am berthynas eglwys a gwladwriaeth. I mi un o gyfrifoldebau’r eglwys yw gweithredu fel gwrthbwynt i’r wladwriaeth/llywodraeth. Yn yr 1960au roedd pobl fel Pennar a Tudur yn gallu gwneud hynny drwy gyfrwng Plaid Cymru. Ond gyda’r Blaid bellach mewn llywodraeth rhaid holi a’i tu mewn mae lle i arweinwyr eglwysig fod.
Dwi ddim yn siŵr mod i wedi mynegi fy hun yn eglur yma, ond gobeithio dy fod yn hanner deall fy safbwynt? Dwi’n cytuno y bod cyfrifoldeb gan Gristnogion Cymru sefyll yn erbyn gwleidyddiaeth adweithiol y dde, ond dwi ddim wedi fy mherswadio mae drwy daflu ein hetiau i gyd i mewn i gwch Plaid Cymru mae gwneud hynny.
Dwi’n aelod o’r Blaid cofia ac yn pleidleisio drosti ac fe es allan o fy ffordd i gynorthwyo ymgyrch Leanne. Ond dyna ni i mi. Rwy’n fwy cyfforddus yn ceisio dwyn dylanwad gwleidyddol drwy gyfrwng cenhadaeth yr eglwys ac hefyd fy ngweithgarwch a mudiadau pwyso. Dydy gwleidyddiaeth pleidiol ddim yn gêm dwi a diddordeb bod yn rhan ohoni.