Wnes i ddod ar draws menter ddiweddara Liam Gallagher o Oasis heno. Mae e’n lansio clothing range ei hun wythnos yma, Pretty Green, “becuase i see a lot of people looking scruffy”! Mae’r fideo isod, sydd yn ôl y disgwyl yn llawn rhegi (ond dwi wedi eich rhybuddio), yn dangos Liam yn sôn am ei weledigaeth – “none of this skinny stuff, I’m not having any of that sh*t.”! Mwynhewch…
Please follow and like us:
Paid a dechrauf i off – oherwydd blydi gig Oasis yng Nghaerdydd wythnos i fory, mae’n rhaid i bob tafarn/bar yng nghanol y ddinas weini eu diodydd mewn gwydrau plastig. Mae’r Wyl Gwrw ymlaen yn y CIA ar yr un diwrnod a rhaid iddyn nhw hyd yn oed ufuddhau gyda’r reol hurt yma.