Do, fe ges i fy argyhoeddi gan Ieuan neithiwr. Roedd ei ddadl dros Llafur-Plaid yn resymol ac hefyd yn rhoi Cymru yn gyntaf. I ddechrau mynegodd ei bryderon gyda’r Enfys yn bennaf anwadalrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr – roedd yn gofidio y byddai’r llywodraeth enfys yn torri i lawr hanner ffordd trwy’r tymor ac y byddai y llywodraeth Plaid Cymru cyntaf erioed yn cael ei weld fel un gwan, byrhoedlog a thrychinebus. Roedd Ieuan yn tybio fod y risg yn un rhy fawr i’w gymryd – fe gytunais ag ef erbyn y diwedd.
Hefyd, pwyntiodd Ieuan allan bod hwn yn gyfle pwysig i lacio grym San Steffan ar Gymru ac hefyd i Rhodri Morgan bellhau fwy fwy oddi wrth yr AS Llafur yn Llundain. Dywedodd fod y Blaid Lafur yn debygol o weld rhwyg rhwng y bobl sydd am weld Cymru yn llwyddo ac rhwng yr unoliaethwyr sy’n hapus i weld dim byd yn digwydd am genhedlaeth arall.
Ond yn bwysicach fyth tynnodd Ieuan sylw at y ffaith fod cymaint o faniffesto’r Blaid yn y ddogfen Llafur-Plaid – ac yn bwysicach fyth fod raison d’etre y Blaid wedi ei gynnwys sef dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Fe fynegwyd peth amheuaeth o’r llawr yn bennaf y bryder o orfod wynebu etholwyr Ceredigion o fod wedi bod mewn llywodraeth gyda Llafur. Fodd bynnag dwi’n credu mod i’n gywir i Ieuan ac Elin Jones argyhoeddi pob wan jac un yna. Does dim un clymblaid mynd i fod yn berffaith – hanfod clymblaid yw cyfaddawdu ar rai pethau ond dwi wedi fy argyhoeddi fod Ieuan wedi cael y gorau i ni allan o’r sefyllfa anodd a chymhleth yma. Efallai fod bod mewn gyda Llafur ddim yn bywiogi’r meddwl ond mae bod mewn llywodraeth gyda’n polisïau ni yn rhan ganolog i’r llywodraeth honno yn gynhyrfus iawn.
raison d’etre ia Rhys? A minnau’n meddwl dy fod o dras Ffrengig 😉
do! Ia, wedi golygu rwan! Rh